Skip to Main Content
Cllr Ian Chandler, Sam (a foster carer) and Cllr Meirion Howells
Sam, Gofalwr Maeth o Sir Fynwy gyda’r Cyngh. Ian Chandler a’r Cyngh. Meirion Howells

Castell Cil-y-coed oedd y lleoliad syfrdanol ar gyfer digwyddiad gwerthfawrogi gofalwyr maeth. Roedd y digwyddiad yn dathlu’r cyfraniad enfawr y mae gofalwyr maeth yn ei wneud i fywydau babanod, plant a phobl ifanc yn Sir Fynwy. Ymunodd Cynghorwyr a staff o’r tîm Gwasanaethau Plant â gofalwyr maeth o bob rhan o Sir Fynwy. Derbyniodd pawb a fynychodd fag nwyddau fel arwydd o gydnabyddiaeth. Derbyniodd gofalwyr sydd wedi cyrraedd cerrig milltir arwyddocaol dusw o flodau a thystysgrifau – mae un gofalwr wedi bod yn ofalwr maeth yn Sir Fynwy ers cyfnod anhygoel o 30 mlynedd.

Benthycodd siopau Ailddefnyddio Sir Fynwy yr hen lestri clasurol a ddefnyddiwyd ar gyfer y te prynhawn – gan ddarparu cymysgedd hardd, eclectig ar gyfer parti’r haf – a oedd nid yn unig yn arbed arian ond yn helpu osgoi taflu nwyddau sydd yn ei dro yn well i’r blaned.

Cllr Ian Chandler at Caldicot castle
Cyngh. Ian Chandler

Addurnwyd y castell gyda baneri hardd a wnaed yn garedig gan bwythwyr talentog yn TogetherWORKS yng Nghil-y-coed.

Digwyddiad gwerthfawrogi Gofalwyr Maeth yng Nghastell Cil-y-coed

Dywedodd y Cyngh. Ian Chandler, Aelod Cabinet ar gyfer Gofal Cymdeithasol: “Diolch yn fawr iawn i’n holl ofalwyr maeth – rydych chi’n gwneud gwahaniaeth aruthrol bob dydd. Mae wedi bod yn wych cwrdd â chi i gyd a chlywed eich straeon rhyfeddol. Byddem yn annog unrhyw un sydd wedi ystyried maethu i gymryd y cam hwnnw a chysylltu â’r tîm drwy ymweld â  Maethu yn Sir Fynwy | Maethu Cymru  Sir Fynwy.”

Ychwanegodd y Cyngh. Meirion Howells, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae’r gefnogaeth y mae gofalwyr maeth yn ei darparu yn anhygoel – rydych chi i gyd yn cael eich gwerthfawrogi’n fawr. Ar ran Cyngor Sir Fynwy, ni allaf ddiolch digon i chi i gyd.”

Cwpanau a soseri o siopau ailddefnyddio Sir Fynwy
Cwpanau a soseri o siopau ailddefnyddio Sir Fynwy