Skip to Main Content
Pupils stand with some of the flags and cards, outside Llanfoist Fawr Primary school, with teacher Victoria Bowen and two of the Monmouthshire Meals team
Disgyblion yn sefyll gyda rhai o’r baneri a chardiau, y tu allan i Ysgol Gynradd Llan-ffwyst Fawr, gyda’r athrawes Victoria Bowen a dau o dîm Prydau Sir Fynwy

Creodd disgyblion ysgolion cynradd Llan-ffwyst Fawr a Llanfihangel Crucornau 265 o faneri a chardiau fflag yr Undeb i helpu’r trigolion i ddathlu Coroni’r Brenin Siarl III. Fe gyflwynwyd yr anrhegion caredig ynghyd â the prynhawn i bobl yn y gymuned gan dîm Prydau Sir Fynwy ar draws y sir ar ddiwrnod y coroni.

Dywedodd Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Martyn Groucutt:  “Mae’r creadigrwydd a charedigrwydd y disgyblion wedi creu cymaint o argraff arnaf.  Roedd pob cerdyn a phob baner yn brydferth ac rwy’n siŵr wedi dod â llawer iawn o hapusrwydd i bob preswylydd a gafodd un.  Roedd te’r prynhawn yn edrych mor flasus – am syndod hyfryd.  Da iawn i bawb a oedd yn rhan o hyn.”

Mae Prydau Sir Fynwy yn danfon prydau maethol i unrhyw breswylydd yn y sir sydd ag angen wedi’i asesu.  Mae’r prydau yn cael eu dosbarthu’n boeth, neu wedi’u rhewi, yn dibynnu ar yr hyn y mae pob cwsmer yn dewis, mewn cerbydau sydd wedi’u haddasu’n arbennig, 365 diwrnod y flwyddyn. Bwriad y gwasanaeth hwn yw helpu pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach.  Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth yn dosbarthu prydau i tua 300 o gartrefi trigolion.

Dywedodd y Cynghorydd Tudor Thomas, Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol:  “Mae Prydau Sir Fynwy wir yn gwneud gwaith hynod o bwysig, ac yn helpu trigolion i gael cefnogaeth i aros yn eu cartrefi eu hunain a’u cefnogi mewn ffordd sy’n diwallu eu hanghenion unigol.  Roeddwn wrth fy modd yn gweld wynebau trigolion yn gwenu wrth dderbyn y baneri a’r cardiau hyn gyda’u te wrth i ddiwrnod y Coroni agosáu. Hoffwn ychwanegu fy niolch at eu rhai nhw, i’r disgyblion yn ysgolion Llan-ffwyst Fawr a Llanfihangel Crucornau.”

I ddarganfod mwy am wasanaeth Prydau Sir Fynwy ewch i’r dudalen we https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/monmouthshire-meals/

Pryd o fwyd ‘sy’n addas i Frenin’ yn cael eu dosbarthu ar draws Sir Fynwy

Lluniau: Disgyblion yn sefyll gyda rhai o’r baneri a chardiau, y tu allan i Ysgol Gynradd Llan-ffwyst Fawr, gyda’r athrawes Victoria Bowen a dau o dîm Prydau Sir Fynwy; Rhai o dderbynwyr hapus Prydau Sir Fynwy gyda’r baneri a’r cardiau.