Skip to Main Content
Shire Hall, Trefynwy
Shire Hall, Trefynwy

Mae amgueddfeydd Sir Fynwy sydd yn cael eu rheoli gan MonHeritage, sy’n rhan o Gyngor Sir Fynwy, wedi derbyn hwb ar ôl y rownd ddiwethaf o ddyfarniadau ariannol.

Mae’r cynllun i ail-leoli amgueddfa Trefynwy i’r Shire Hall (Neuadd y Sir) gam yn agosach yn sgil y Grant Datblygu o £349,928 a ddyfarnwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd y cyllid yn caniatáu’r Cyngor i ail-ddatblygu’r Neuadd Sir fel amgueddfa achrededig.

Roedd grant ychwanegol o £241,697 wedi ei ddyfarnu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (Casgliadau Deinamig) er mwyn gwella’r gwaith catalogio o Gasgliad Trefynwy ac i ymgynghori gyda chymunedau lleol am y straeon y maent am weld yn cael eu olrhain yn arddangosfeydd yr amgueddfa. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys arddangosfeydd o fewn y gymuned ac yn y Neuadd Sir.

Mae gwaith cadwraeth a gwelliannau i gasgliad Nelson eisoes wedi eu gwneud. Lluniwyd adroddiad a ariannwyd gan Ffederasiwn Amgueddfeydd a Galerïau Cymru yn ystod 2022 a oedd yn amlinellu pwysigrwydd cenedlaethol casgliad Nelson. Mae hyn wedi ei gymeradwyo gan Amgueddfa Forol Genedlaethol, Greenwich. Mae’r amgueddfa hefyd wedi gweithio gyda Race Council Cymru er mwyn cynnal dau weithdy gyda’r testunau na sydd wedi eu trafod rhyw lawer cyn hyn ynglŷn â Nelson ond y mae pobl am weld.

Dywedodd y Cyngh. Sara Burch, Aelod Cabinet sydd yn gyfrifol am amgueddfeydd MonHeritage:
“Rwyf wrth fy modd fod Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi’r cynlluniau ar gyfer adleoli amgueddfa Trefynwy i’r Neuadd Sirol. Bydd yn helpu ni ddatblygu’r cynlluniau i wneud yr amgueddfa, y casgliad, ac arddangosfeydd y dyfodol yn fwy cynrychioliadol o Drefynwy, y sir, ei hanes a’i phobl.”

Mae amgueddfeydd MonHeritage yn y Fenni a Chas-gwent hefyd wedi elwa o gyllid. Roeddynt wedi derbyn £173,318 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect – Ymchwilio, ail-asesu ac adhawlio: treftadaeth a diwylliant cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Sir Fynwy. Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at yr amcanion treftadaeth yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru. Mae’r dyfarniad yn adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei ddechrau yn y ddwy amgueddfa ac yn cyfrannu at ddehongliadau gwell o’r casgliadau, yn cynrychioli eu cysylltiad gyda chaethwasiaeth yn well ynghyd â choloneiddio a’r ymerodraeth, ac yn cydnabod y rôl sydd wedi ei chwarae gan gymunedau Sir Fynwy o ran caethwasiaeth, yr ymerodraeth a globaleidido.

Gyda Race Council Cymru, bydd MonHeritage yn cynnal gweithdai cymunedol er mwyn archwilio ffyrdd i ddehongli’r casgliadau yma yn well. Bydd gweithio gyda chymunedau yn caniatáu’r tîm Dysgu a’r Churadurol i greu rhaglen o weithgareddau sydd yn debygol o gynnwys digwyddiadau diwylliannol ac arddangosfeydd yn lleoliadau Sir Fynwy. At hyn, bydd gweithgareddau cymunedol a dysgu yn cael eu cynnal mewn ysgolion lleol ac yn amgueddfeydd y sir. Bydd y cynnwys yn cael ei ysbrydoli gan y casgliadau a’r dreftadaeth leol yng Nghas-gwent.

Yng Nghas-gwent, mae prosiect sydd wedi ei ariannu gan £10,000 o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol newydd ei gwblhau er mwyn ymchwilio ac ail-ddehongli bywydau’r nyrsys a oedd wedi gweithio yn yr amgueddfa pan oedd yn ysbyty. Mae’r arddangosfa sydd wedi ei hysbrydoli gan y prosiect ar agor tan fis Rhagfyr 2023.

Bydd amgueddfa Cas-gwent yn agor arddangosfa barhaol yn ymwneud gyda Thaith y Gwy ym mis Gorffennaf. Bydd yn cynnwys llun gan JMW Turner a brynwyd yn diweddar yn dilyn cyfraniad o £76,000 gan Gyngor Celfyddydau Lloegr/Cronfa Grant Prynu V&A a chefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol, Museums Association Beecroft Bequest, Ymddiriedolaeth Dyffryn Gwy.

Er mwyn dysgu mwy am amgueddfeydd Sir Fynwy, ewch i www.monlife.co.uk/heritage/

Tags: ,