Skip to Main Content

Roedd Cyngor Sir Fynwy wedi agor ei ddrysau ar ddydd Gwener, 14eg Ebrill, er mwyn cynnal ei  ddigwyddiad Ramadan Iftar cyntaf erioed yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga. Mynychwyd y digwyddiad gan Gymdeithas  Gymunedol Foslemaidd Sir Fynwy, y gymdeithas Foslemaidd, yr Arweinydd, Cynghorwyr, aelodau o’r Cabinet a swyddogion eraill. 

Daeth y gymuned ynghyd er mwyn gwrando, rhannu bwyd o dair wlad ar ôl ymprydio ar gyfer Ramadan a gweddïo gyda’i gilydd. Roedd cyflwyniad huawdl wedi ei roi gan  yr Imam uchel ei barch, Ustad Faisal Khajjou, cyn cynnal sesiwn holi ac ateb.   

Mae Iftar yn ddigwyddiad pwysig i’r gymuned Fwslimaidd. Wedi gweddïo  ac ar ôl machlud haul, mae Moslemiaid yn torri’r ympryd gydag Iftar. Yn draddodiadol, mae rhai sydd yn dilyn arferion Ramadan yn gorffen ymprydio drwy fwyta tair deten, yn union fel y gwnaeth y proffwyd   Mohammed. Yna, mae Iftar yn dechrau  — a dathliad gyda llawer o fwyd, teulu a ffrindiau. 

Roedd Arweinydd Cyngor  Sir Fynwy, y Cyngh. Mary Ann Brocklesby, y Prif Weithredwr Paul Matthews ac aelodau o’r Cabinet wedi siarad gyda chynrychiolwyr o’r gymuned Foslemaidd ar yr heriau y mae’n wynebu.   

Dywedodd Arweinydd Cyngor  Sir Fynwy, y Cyngh. Mary Ann Brocklesby: “Roedd yn anrhydedd i gynnal y digwyddiad arloesol hwn gyda Chymdeithas Gymunedol Foslemaidd Sir Fynwy. Rwy’n gwybod mai dyma fydd y digwyddiad cyntaf o blith nifer. Roedd yn wych i ddod at ein gilydd i addoli ac roedd yn fraint i siarad gyda chynrychiolwyr y gymuned Foslemaidd ac i glywed am eu profiadau a’u hanghenion. Rwyf yn falch fod Sir Fynwy yn lle croesawgar, cynhwysol ac yn cofleidio pob math o ddiwylliant ac yn lle y mae unrhyw un am fyw a gweithio.”  

Dywedodd y Cyngh. Catherine Fookes, Aelod Cabinet ar gyfer Cydraddoldeb: “Roeddem wrth ein bodd yn cynnal  Iftar  cyntaf Cymdeithas Gymunedol Foslemaidd Sir Fynwy yn Neuadd y Sir wythnos hon. Roedd wedi caniatáu pobl o bob ffydd, cefndir ac oedran i ddod ynghyd a dysgu wrth ein gilydd. Mae rhannu’r math yma o brofiad yn ffordd wych o chwalu rhwystrau a chynyddu harmoni a dealltwriaeth cymunedol. Diolch o galon i’n swyddog Cydlyniant Cymunedol, Shajan Miah, am drefnu hyn.’

Dywedodd Arweinydd Rhaglen Strategol Gofalwyr Rhanbarthol, Naheed Ashraf: “Hoffem ganmol Cyngor Sir Fynwy am y parch, ymroddiad ac ymrwymiad sydd wedi ei ddangos at y gymuned leol Foslemaidd heddiw a’u teuluoedd yn ystod  Ramadhan 2023. Gyda’r Arweinydd a’r Prif Weithredwr yn agor drws siambr y Cyngor ar gyfer digwyddiad  Ramadhan Iftar anhygoel, roeddynt wedi ymprydio gyda Moslemiaid fel rhan o’u hymrwymiad i’r undod ac wedi dangos y ffordd tuag at integreiddio go iawn.  

“Roeddem oll wedi trafod syniadau, wedi bwyta bwyd hyfryd ac wedi gweddïo gyda’n gilydd. Roedd wedi agor fy llygaid i  ddynoliaeth go iawn ac nid wyf erioed wedi gweld unrhyw un arall yn chwarae’r fath rôl yn arwain cydlyniant yng Nghymru. Roedd yna groeso, cofleidio a phwrpas go iawn wrth i ni fynd ati i adeiladu cymunedau cydlynus. Gyda Sir Fynwy yn gwneud y gwahaniaeth hwn  i elwa cynifer o bobl, mae’n gwneud i mi fod yn falch i fod yn Gymro ac yn Fwslim.”

Dywedodd Maddie Saraireh o Gymdeithas Gymunedol Foslemaidd Sir Fynwy: “Mae’r MMCA wedi ein hanrhydeddu wrth i ni gyd-gynnal ein digwyddiad  Ramadan Iftar cyntaf mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Fynwy, yn Neuadd y Sir, Brynbuga ar ddydd Gwener, 14eg Ebrill. Roedd yn ddigwyddiad cymunedol llwyddiannus iawn, ac o bosib, dyma fydd y cyntaf o blith nifer. Hoffai’r  MMCA ddiolch i Gyngor Sir Fynwy am ei gefnogaeth barhaus i’r gymuned Fswlimaidd yn Sir Fynwy, sydd yn cyfrannu mor sylweddol ac mor bositif i gyfoeth ac amrywiaeth y sir.”