Skip to Main Content
Cllr-Martyn-Groucutt-Cllr-Laura-Wright-Gary-Corbett-–-Morgan-Sindall-Asst-site-manager-and-Deri-View-pupils-
Cyngh. Martyn Groucutt, Cyngh Laura Wright a Gary Corbett (Rheolwr safle Cynorthwyol ar gyfer Morgan Sindall) gyda disgyblion ar safle newydd Ysgol Brenin Harri’r  VIII 3-19  

Mae seremoni i gladdu capsiwl amser wedi ei chynnal ar safle newydd Ysgol Brenin Harri’r  VIII 3-19 sydd yn cael ei hadeiladu yn y Fenni. Roedd disgyblion o Ysgol Gynradd  Deri View wedi creu eitemau er mwyn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn medru dysgu am fywyd  yn 2023, gan gynnwys gwybodaeth am  Ysgol Gynradd Deri View. 

Roedd disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 wedi ysgrifennu llythyron hyfryd ac wedi gwneud gwaith celf, printiau llaw a chreu straeon. Roeddynt hefyd wedi bod wrthi’n frwdfrydig yn casglu lluniau, llyfrau ymarfer a gwrthrychau eraill i gynrychioli’r cyfnod hwn.    

Gan wisgo dillad diogelwch personol, roedd y disgyblion wedi gosod y capsiwl amser yn y ddaear gan gymryd tro yn claddu’r capsiwl gyda phridd.  Roedd Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyngh. Laura Wright, y Cyngh. Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Brenin Harri’r VIII, Penaethiaid a gwesteion arbennig o Morgan Sindall, sef y cwmni adeiladu, oll wedi ymuno gyda’r disgyblion.   

Deri View gyda’r capsiwl amser  yn Ysgol Brenin Harri’r  VIII
Deri View gyda’r capsiwl amser  yn Ysgol Brenin Harri’r  VIII 

Dywedodd y Cyngh. Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg: “Rwy’n falch iawn o  Ysgol Brenin Harri’r VIII  sydd yn cael ei hadeiladu yma gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Dyma fydd yr ysgol carbon niwtral 3-19 gyntaf o’i math yng Nghymru – sydd mor bwysig yn sgil yr argyfwng hinsawdd.   

“Mae wedi bod yn hyfryd i ymweld gyda’r safle heddiw ar gyfer y seremoni i gladdu’r capsiwl amser – diolch o galon i ddisgyblion Ysgol Gynradd  Deri View sydd wedi claddu ychydig o hanes yn 2023 yn y tir yma – mae’n gyffrous iawn ac yn rhywbeth y bydd y plant yn cofio am byth.” 

Ychwanegodd y Cyngh. Laura Wright, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae’n hyfryd clywed pa mor wych y mae’r plant wedi gweithio gyda’i gilydd a’u bod wedi ymchwilio mor helaeth i’r prosiect cyffrous hwn. Da iawn i bawb gan eich bod wedi chwarae rhan allweddol yn yr ysgol newydd anhygoel hon.”

Roedd y disgyblion o Ysgol Gynradd Deri View wedi rhannu ychydig o’u teimladau am y diwrnod:

Yn ôl Lyra: “Roeddwn wir wedi mwynhau ac yn teimlo fy mod yn rhan o rywbeth mor bwysig.” Disgrifiodd Libby y profiad: “Roeddwn wedi gosod llythyr a phrint llaw yn y capsiwl amser. Rwyf mor gyffrous o feddwl y bydd rhywun yn agor hyn yn y dyfodol ac yn dysgu am fywyd plentyn yn 2023.” Ychwanegodd Kasper: “Roeddwn wedi rhoi gwydrau/sbectol a bag ysgol yn y capsiwl amser ac roeddwn wedi helpu i gladdu’r capsiwl yn y ddaear.”

Disgyblion o Deri View yn claddu capsiwl amser sy’n cynnwys eitemau y maent wedi dewis
Disgyblion o Deri View yn claddu capsiwl amser sy’n cynnwys eitemau y maent wedi dewis

Am fwy o wybodaeth am yr ysgol, ewch os gwelwch yn dda i: Ysgol pob oed yn y Fenni – Sir Fynwy

Y strwythur dur ar gyfer yr ysgol newydd
Y strwythur dur ar gyfer yr ysgol newydd