Skip to Main Content

Er mwyn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar ddydd Mercher, 8fed Mawrth, roedd rhai Cynghorwyr sy’n fenywod wedi dod at ei gilydd er mwyn siarad gyda chydweithwyr mewn digwyddiad ffrydio byw. Cadeiriwyd y digwyddiad gan y Cyngh. Catherine Fookes, Aelod Cabinet ar gyfer Cydraddoldeb ac ymunodd Arweinydd y  Cyngor, y Cyngh. Mary Ann Brocklesby, y Cyngh. Su McConnel, y Cyngh. Lisa Dymock, y Cyngh. Rachel Garrick, y Cyngh. Angela Sandles a’r Cyngh. Penny Jones, â’r digwyddiad. Roeddynt oll wedi rhannu eu profiadau ac wedi esbonio’r hyn sydd yn eu hysbrydoli ac wedi rhoi cyngor i fenywod eraill. 

Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni oedd ‘cofleidio cydraddoldeb’ ac roedd wedi arwain at ddigwyddiadau yn cael eu cynnal er mwyn dathlu cyraeddiadau menywod, codi ymwybyddiaeth o wahaniaethu a chymryd camau i fynd i’r afael gyda chydraddoldeb rhywedd. 

Lansiodd y Cyngh. Catherine Fookes y digwyddiad gan ddweud: “Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i ni ddathlu pa mor bell yr ydym wedi dod o ran cydraddoldeb i fenywod ond mae hefyd yn gyfle i feddwl am yr hyn sydd dal angen ei wneud ar gyfer cydraddoldeb rhywedd, gan nad ydym wedi cyrraedd pen y daith eto.”

Wrth olrhain ei phlentyndod, roedd wedi  cael ei magu ar fferm fach: “Roedd hyn wedi fy siapio, ar ddechrau fy mywyd, i feddwl am  degwch a’r angen i amddiffyn yr amgylchedd. Mi wnes i ddod yn ymgyrchydd. Rwyf nawr yn Brif Weithredwr ar y Rhwydwaith Cydraddoldeb i Fenywod a’n gweledigaeth yw sicrhau Cymru sydd yn rhydd o unrhyw wahaniaethu ar sail rhyw.”

Esboniodd y Cyngh. Fookes tra bod Cymru yn gwneud yn dda, gyda 43% o ymgeiswyr ar gyfer etholiadau diwethaf y Senedd yn fenywod, dim ond 4 o’r 22 arweinydd Cyngor yng Nghymru sydd yn fenywod.  

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyngh. Mary Ann Brockleby: “Os ydym am sicrhau cydraddoldeb, rhaid i ni sicrhau bod cydraddoldeb a thegwch yn ein gosod mewn sefyllfa lle’r ydym yn cael ein cymryd o ddifri’. Yn tyfu lan fel un o wyth o blant, roeddwn yn teimlo fel nad oedd neb yn gwrando arnaf. Felly, roeddwn wedi ceisio manteisio ar bob cyfle i godi fy llais.”

Roedd hi wrth ei bodd yn ymweld gyda’r llyfrgell gan ddarllen llyfrau, ac roedd hyn wedi rhoi’r ymdeimlad i Mary Ann fod “menywod yn medru gwneud pethau yn wahanol, bod pobl yn medru gwneud pethau yn wahanol, bod bywyd yn medru bod yn wahanol a bod yna wybodaeth yn aros yno i’w draflyncu.” 

Mae’r Cyngh. Brocklesby, sydd wedi treulio 30 mlynedd yn gweithio ym maes  Datblygu Rhyngwladol ar hawliau dynol a  hawliau rhywedd, yn talu teyrnged i’w mam am roi cyngor cadarn iddi pan oedd yn tyfu lan – sef elwa o addysg a sicrhau annibyniaeth ariannol.  “Rwyf wedi fy ysgogi gan gefnogaeth y menywod sydd o’m cwmpas – fy chwiorydd, cymdogion, ffrindiau – a dyma pam fy mod yn gwybod  y bydd menywod yn helpu menywod eraill.  Mae’n ddyletswydd arnaf i wneud hyn wrth i mi symud drwy’r byd. Mae pob llwyddiant yr wyf wedi ei brofi i’w briodoli i’r menywod sydd y tu nôl i mi – fy mam, mam-gu, chwiorydd a phob menyw sydd wedi fy nghefnogi ar y daith hon.  

Ar Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, hoffwn gofleidio cydraddoldeb, cofleidio’r ffaith fod llais gan bawb a gadewch i ni estyn llaw a helpu menyw arall a helpu merch arall gan ddweud – rwyt ti’n medru gwneud hyn,” ychwanegodd y Cyngh Brocklesby.

Dywedodd y Cyngh. Su McConnel, Aelod Ward ar gyfer Croesonen yn y Fenni: “Mae degawdau o weithio yn y gwasanaeth prawf wedi fy nysgu fod pobl yn eu hanfod yn dda, yn garedig a’n ofalgar. Rwyf am ddarllen dyfyniad gan yr ymgyrchydd Pacistanaidd Malala Yousafzai, sef y person ieuengaf i ennill y Wobr Nobel. Dywedodd hi: ‘Rwy’n codi fy llais nid er mwyn i mi gael gweiddi, ond fel bod modd i’r rhai heb lais i gael eu clywed.” A dyna yw rôl cynrychiolydd – fy nghyngor i ar gyfer rhywun sydd am ystyried gyrfa mewn gwleidyddiaeth yw ewch amdani a dechreuwch y sgwrs – dewch o hyd i fenywod yn y byd gwleidyddol yr ydych yn ei hedmygu a chysylltwch gyda hwy.”

Roedd y Cyngh. Penny Jones, Aelod Ward ar gyfer Rhaglan, wedi trafod pwy sydd wedi dylanwadu arni, gan ddechrau yn ystod ei chyfnod yn Ysgol Gramadeg  Abersychan: “Fy nylanwad cyntaf oedd athrawes hanes gwleidyddol a oedd yn eich gorfodi i ddadlau a rhesymu ac roedd hyn wedi meithrin cariad tuag at wleidyddiaeth.” Wedi blynyddoedd yn nyrsio, roedd Penny wedi hyfforddi i fod yn ddarlithydd iechyd a gofal cymdeithasol, yn helpu pobl  i ddod yn nyrsys, yn weithwyr cymdeithasol, yn ffisiotherapyddion ymhlith nifer o rolau gofalu eraill.  “Mae helpu rhywun arall a chael ychydig o fewnbwn i mewn i’w bywydau yn rhoi ymdeimlad o fodlonrwydd…. ar ddiwedd y dydd, nid oes unrhyw rôl nad oes modd i fenyw ei gwneud.”

Dywedodd y Cyngh. Lisa Dymock, Aelod Ward ar gyfer Porthsgiwed: “Petai rywun wedi dweud wrthyf 10 mlynedd yn ôl y byddem yn fy ail dymor fel Cynghorydd, ni fyddem byth wedi credu hyn. Ni fyddem wedi cyflawni hyn heb y cydweithwyr ysbrydoledig o’m cwmpas  ar hyd y ffordd. Yr ysbrydoliaeth fwyaf o ran fy ngyrfa wleidyddol oedd cyn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor, Sara Jones. Dysgodd Sara i mi fod angen i arweinwyr cymunedol i alw ar fenywod eraill ar draws Sir Fynwy i wneud gwahaniaeth positif er mwyn sicrhau bod menywod yn cael cyfleoedd. Rwyf am i bob menyw i gredu yn eu hunain a theimlo eu bod yn perthyn a’u bod yn medru chwarae rhan yn eu cymunedau.”

Roedd y Cyngh. Angela Sandles, Aelod Cabinet ar gyfer Ymgysylltu wedi rhannu ei phrofiadau ac wedi amlygu ei rôl fel gofalwr maeth ynghyd â bod yn Gynghorydd: “Hoffem ddiolch i’r holl fenywod sydd yn gwneud gwahaniaeth yn Sir Fynwy bob dydd. Fel gofalwr maeth, rwy’n gwybod yr effaith bositif sylweddol yr ydych yn cael ar blant a phobl ifanc.  Os oes unrhyw un ystyried maethu, yna cysylltwch gyda’n tîm ni heddiw.”

Dywedodd y Cyngh. Rachel Garrick, Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau: “Rwyf am dalu teyrnged i rai o’r menywod sydd wedi bod yn help sylweddol i mi ar hyd fy mywyd a’m gyrfa. Rwy’n dod o’r Cymoedd ac nid oedd neb yn fy nheulu wedi bod i’r Brifysgol cyn hyn. Roedd rhai o’r menywod a oedd wedi fy nysgu yn y Brifysgol yn anhygoel ac wedi fy annog. Roeddynt wedi agor y  drws i’r byd i mi.”

Roedd Rachel, a Mary Ann Brocklesby, wedi eu cynnwys yn ddiweddar yn Orwel Anfarwolion Menywod Gwent, wedi gweithio ym myd peirianneg am 30 mlynedd gan gynnwys fel y Prif Asesydd  Sicrwydd Niwclear Annibynnol ym mhrosiect pwerdy niwclear  Hinkley Point C. Ysbrydolwyd Rachel i gamu i fyd gwleidyddiaeth ar ôl gweithio gyda’r undebau a dywedodd: “Mae menywod yn ffactor allweddol dros wneud newidiadau, yn gosod mesurau a deddfwriaeth yn eu lle i fenywod yn y gweithle, i deuluoedd ac i’r gymdeithas gyfan.

“Fy neges olaf yw peidiwch â gadael i’r cysyniad sydd gan gydmeithas i gyfyngu ar eich amcanion. Ewch amdani, mae modd i chi lwyddo ac mae cynifer o fenywod sydd allan yno yn barod i’ch helpu ar y ffordd a’ch cefnogi,” dywedodd y Cyngh. Garrick.