Skip to Main Content
Cyn Fardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn, Maer Tref Cas-gwent Margaret Griffiths, Jont Bulbeck (Arweinydd Tîm Mynediad Awyr Agored a Hamdden Cyfoeth Naturiol Cymru), Simon Pickering (Pennaeth Tirweddau Dynodedig a Mynediad i Gefn Gwlad, Llywodraeth Cymru), Tricia Cottnam (Swyddog Llwybr Arfordir Cymru), y naturiaethwr Iolo Williams a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyngh. Paul Griffiths
Cyn Fardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn, Maer Tref Cas-gwent Margaret Griffiths, Jont Bulbeck (Arweinydd Tîm Mynediad Awyr Agored a Hamdden Cyfoeth Naturiol Cymru), Simon Pickering (Pennaeth Tirweddau Dynodedig a Mynediad i Gefn Gwlad, Llywodraeth Cymru), Tricia Cottnam (Swyddog Llwybr Arfordir Cymru), y naturiaethwr Iolo Williams a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyngh. Paul Griffiths

Glan yr Afon yng Nghas-gwent oedd y man dathlu ar ddydd Llun, 27ain Mawrth, wrth i ni ddathlu pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru yn 10 mlwydd oed. Roedd y digwyddiad, a fynychwyd gan gynrychiolwyr o Gyngor Sir Fynwy, Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, wedi amlygu’r manteision a ddaw o fynd allan i’r awyr agored a phrofi byd natur. Roedd y naturiaethwr, cadwraethwr a’r cyflwynwyd teledu, Iolo Williams yn un o’r gwesteion, ynghyd â chyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn.

Ar y safle ger Pont Cas-gwent, roedd Iolo wedi dadorchuddio bocs sŵn newydd sydd yn disgrifio’r amrywiaeth o fywyd gwyllt sydd i’w weld ar Lwybr Arfordir Cymru. Mae Iolo wedi recordio tair neges hefyd ac mae cyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn yn darllen ei gerdd Bendith Llwybr yr Arfordir. Mae cerddwyr ar y llwybr arfordirol yn medru defnyddio’r bocs sŵn er mwyn dod ag amrywiaeth cyfoethog bywyd gwyllt yr ardal yn fyw wrth iddynt fynd ar eu ffordd. Mae pedair neges gan y bocs sŵn, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae’n cynnig ffordd fwy hygyrch o glywed gwybodaeth. Mae modd newid y negeuon er mwyn eu cadw’n ffres ac yn berthnasol.

Iolo Williams yn arddangos y bocs sŵn newydd ar Lwybr Arfordir Cymru ger glan yr afon yng Nghas-gwent
Iolo Williams yn arddangos y bocs sŵn newydd ar Lwybr Arfordir Cymru ger glan yr afon yng Nghas-gwent 

Roedd yr arlunydd Michael Johnson wedi dylunio a gwneud gwaith celf o gerrig crynion ar gyfer y safle yng Nghas-gwent sydd yn cynnwys rhan o gerdd Ifor ap Glyn. Mae gwaith celf tebyg i’w weld yn Sir Fflint.

Cyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, yn darllen ei gerdd am lwybr yr arfordir, ger glan yr afon yng Nghas-gwent.
Cyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, yn darllen ei gerdd am lwybr yr arfordir, ger glan yr afon yng Nghas-gwent.  

Wrth agor y digwyddiad, dywedodd Iolo Williams: “Rwyf wrth fy modd yn cael fy ngwahodd i helpu dathlu penblwydd Llwybr Arfordir Cymru yn 10 mlwydd oed. Dros y ddegawd ddiwethaf, rwyf wedi cerdded sawl rhan o’r llwybr ac mae amrywioldeb y dirwedd a’r bywyd gwyllt yn fy synnu bob un tro. Roedd y cyfnodau clo adeg Covid wedi ein dysgu ni pa mor bwysig yw’r byd naturiol ar gyfer ein lles corfforol a meddyliol ac rwyf yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn annog mwy o bobl i fynd allan a mwynhau’r byd naturiol anhygoel sydd gan Gymru.”

Dywedodd cyn Fardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn: “Er bod y digwyddiad hwn yn dathlu dechrau (a diwedd!) y daith yng Nghas-gwent, mae cerddwyr yn medru creu eu mannau ‘dechrau’ a ‘gorffen’ eu hunain unrhyw le ar hyd y llwybr sydd yn 870 milltir. Y peth pwysig yw mynd allan a mwynhau’r llwybr.”

Iolo Williams yn siarad am fywyd gwyllt gyda disgyblion o Ysgol Gynradd y Dell
Iolo Williams yn siarad am fywyd gwyllt gyda disgyblion o Ysgol Gynradd y Dell 

Mae Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir Fflint a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn cydweithio dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn gwella’r ffyrdd y mae pobl yn medru cael mynediad at Lwybr Arfordir Cymru. Mae cyllid ar gyfer y prosiect wedi ei roi gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eraill. Mae’r prosiect yn ceisio dwyn ynghyd y mannau yn y gogledd a’r de fel bod pobl yn cael ymdeimlad o gysylltiad, treftadaeth a dathu’r orchest hon.

Dywedodd y Cyngh. Sara Burch, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau Cynhwysol a Byw: “Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cynnig cyfle pwysig i brofi harddwch y sir a gwella ein lles, yn feddyliol a’n gorfforol. Hoffem ddiolch i Gyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Fflint, Llywodraeth Cymru, Ifor Ap Glyn, Iolo Williams, Croeso i Gerddwyr Cas-gwent a Cherddwyr Gwy Isaf, am ddod ynghyd i ddathlu penblwydd Llwybr Arfordir Cymru yng Nghas-gwent.”

Dywedodd y Cyngh. Catrin Maby, Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae ychwanegu’r bocs sŵn at y llwybr yng Nghas-gwent yn mynd i gyfoethogi profiad pobl o’r daith a chodi ymwybyddiaeth o’r bywyd gwyllt amrywiol ac anhygoel sydd i’w weld yma. Rwy’n gobeithio y bydd cynifer o bobl ag sydd yn bosib yn mwynhau’r bocs sŵn ac yn archwilio’r llwybr ar ôl cael eu hysbrydoli gan y wybodaeth y maent yn clywed.”

Rheolwr Mynediad i Gefn Gwlad MonLife Cyngor Sir Fynwy, Ruth Rourke, yn agor y digwyddiad gydag Iolo Williams
Rheolwr Mynediad i Gefn Gwlad MonLife Cyngor Sir Fynwy, Ruth Rourke, yn agor y digwyddiad gydag Iolo Williams

Yn ogystal â bod yn fan dechrau ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru, mae Cas-gwent hefyd yn cynnig cyfle i ymuno gyda nifer o deithiau cerdded eraill fel taith Gerdded Dyffryn Gwy a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa. Eleni, 2023, yw Blwyddyn y Llwybrau ac roedd y digwyddiad wedi dathlu hyn hefyd.

Roedd Croeso i Gerddwyr Cas-gwent wedi cynnal ‘taith gerdded iachus’ fer er mwyn dathlu’r digwyddiad a hyrwyddo’r Ŵyl Gerdded sydd i’w chynnal ar 12fed Ebrill. Roedd Cerddwyr Dyffryn Gwy Isaf yno hefyd ac wedi cynnal taith gerdded hirach. Roedd staff Mynediad i Gefn Gwlad a swyddogion rhanbarthol Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a Llwybr Arfordir Cymru yno hefyd er mwyn trafod cyfleoedd gwirfoddoli a ble i gerdded. Rodd disgyblion o Ysgol Gynradd y Dell wedi mynychu’r digwyddiad gan gyflwyno llyfr i Iolo Williams yr oeddynt wedi ei greu.

Mae Llwybr Arfordir Cymru, sy’n 870 milltir, yn cynnig cyfleoedd i’r cyhoedd i ymgysylltu gyda bioamrywiaeth ar gyfer eu hiechyd a’u lles.

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd mewn lle y mae morloi a hebogau Peregrine i’w gweld yn aml, hefyd yn cynnwys Nid yw Natur yn Daclus, a Grid Gwyrdd Gwent a Lefelau Byw, yn ymgymryd â gweithgareddau ar gyfer y cyhoedd a’r plant o Ysgol Gynradd y Dell yn y dref.

Cynulleidfaoedd wedi dod ynghyd i weld  Iolo Williams yn dadorchuddio bocs sŵn newydd, sydd yn cynnwys gwybodaeth am lwybr yr arfordir a cherdd sydd wedi ei hysbrydoli gan y llwybr
Cynulleidfaoedd wedi dod ynghyd i weld  Iolo Williams yn dadorchuddio bocs sŵn newydd, sydd yn cynnwys gwybodaeth am lwybr yr arfordir a cherdd sydd wedi ei hysbrydoli gan y llwybr  

Am fwy o wybodaeth am Lwybr Arfordir Cymru, ewch i www.walescoastpath.gov.uk/