Skip to Main Content

Cadarnhawyd y llynedd mai Cas-gwent fyddai’r dref nesaf i elwa o’r Prosiect Gofodau Natur, a hynny ar ôl cwblhau’r cynlluniau yn Nhrefynwy. Gofynnwyd i drigolion a budd-ddeiliaid am eu barn yn Hydref  2022 ar y gwelliannau posib ar gyfer gofodau gwyrdd. Mae’r prosiect nawr yn dechrau siapio ac mae’n amser i rannu eich adborth ar y pedwar cynllun arfaethedig yn y dref. 

Y pedwar safle yng Nghas-gwent sydd i’w datblygu y tro hwn yw: y Danes, Severn Crescent, Ffordd Woolpitch a Ffordd Strongbow. Mae’r safleoedd yma wedi eu dewis yn seiliedig ar yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod camau cyntaf yr ymgynghoriad  a lle mae’n bosib diwallu anghenion yr amgylchedd a’r gymuned.  

Mae trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol yn cael eu hannog i ymweld gyda thudalennau gwe Gofodau Natur Cymunedol er mwyn gweld y dyluniadau a rhannu eu hadborth erbyn 10fedMawrth 2023. Yn dilyn y cyfnod hwn i rannu adborth, mae’r Cyngor am barhau i reoli a gwella gofodau gwyrdd, ac felly, rydym yn croesawu awgrymiadau ar unrhyw adeg. 

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau Cynhwysol ac Egnïol: “Rwyf yn falch iawn i weld y pedwar cynllun yma oll yn cael eu datblygu drwy gyfrwng y cynigion yma ar gyfer Cas-gwent. Roedd yr ymateb i’r ymgynghoriad y llynedd yn ffantastig ac wedi helpu i lywio’r cynlluniau yma. Rwyf yn disgwyl ymlaen at weld Cas-gwent yn cael gofodau newydd, gwyrdd a hyfryd ar gyfer mwynhau ac ymlacio ynddynt yn y dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Bydd y gofodau yn ymgyfoethogi’r amgylchedd yng Nghas-gwent ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Byddant hefyd yn cynnig buddion iechyd a lles i bawb. Byddem yn annog cynifer o bobl ag sydd yn bosib i rannu eu hadborth er mwyn gwneud y gofodau yma yn ofodau gwirioneddol ar gyfer y gymuned.”

Mae’r Prosiect Gofodau Natur Cymunedol, a gefnogwyd gan gyllid  Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, yn anelu i wella ein gofodau gwyrdd ar gyfer natur a chefnogi cyfleoedd ar gyfer iechyd a lles. Mae modd gwneud hyn mewn amryw o ffyrdd, fel plannu  coed, neilltuo lleoedd ar gyfer tyfu bwyd yn y gymuned a phlannu blodau gwyllt ar gyfer pryfed peillio. Bydd modd mynd yn agos at fyd natur yno a bod yn egnïol.

Er mwyn dysgu mwy, ewch i: Ymgynghoriad: Gofodau Natur Cymunedol – Monlife

Y cynnig ar gyfer Gofod Natur Cymunedol ar gyfer Ffordd Woolpitch, Cas-gwent
Y cynnig ar gyfer Gofod Natur Cymunedol ar gyfer y Danes, Cas-gwent
Y cynnig ar gyfer Gofod Natur Cymunedol ar gyfer Ffordd Strongbow, Cas-gwent
Y cynnig ar gyfer Gofod Natur Cymunedol ar gyfer Severn Crescent, Cas-gwent