Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi amlinellu ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mae’r argyfwng costau byw wedi effeithio’n sylweddol ar y Cyngor. Mae costau ynni, cynnydd mewn prisiau a’r cynnydd diweddar mewn cyfraddau llog oll wedi bod yn ffactorau sydd yn cyfrannu at hyn.   

Roedd maint yr her o ran y gyllideb, cyn  unrhyw ymyrraeth, yn fwy na £26m. Mae incwm a chyllid wedi cynyddu  9% (£16m) er mwyn talu am rai o’r costau yma ond mae dal angen i’r Cyngor ddod o hyd i arbedion o 5% (£10m) o’r gwasanaethau.

Roedd y Cyngor wedi cytuno ar gynnydd yn y dreth gyngor o 5.95% ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mae’r gyllideb hefyd yn cynnwys cynnydd sylweddol mewn gwariant ar gyfer rhai meysydd,  sef £2.5m ychwanegol ar gyfer ysgolion, £3.6m ychwanegol ar gyfer cefnogi plant yn y system ofal,   £1.9m to ar gyfer sicrhau nad oes rhaid i ni neb gysgu allan yn yr awyr agored,  £1m ar gyfer gofalu am aelodau hŷn ein cymdeithas a chynnydd o  £0.5m ar gyfer cynnal a chadw’r priffyrdd, palmentydd a seilwaith priffyrdd eraill.  

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynhg. Mary Ann Brocklesby :  “Mae hon wedi bod yn broses heriol ar gyfer y gyllideb gan nad yw’r arian sydd ar gael yn medru talu am y costau cynyddol o ddarparu’r gwasanaethau. Rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd wrth i ni ail-drefnu ein gwasanaethau yn unol gyda’r cyllid cyfyngedig sydd ar gael.  Rydym wedi llwyddo i weithio ar draws y Cyngor er mwyn dod at ddealltwriaeth gyffredin sydd yn cael ei adlewyrchu yn y cytundeb ar gyfer y gyllideb. Hoffem ddiolch i Arweinwyr y Grwpiau am osod anghenion ein trigolion yn gyntaf wrth ddod i gonsensws.  

Mae hon yn gyllideb sydd yn gosod y Cyngor mewn sefyllfa i fedru parhau i weithredu ei werthoedd a’i flaenoriaethau: mynd i’r afael gydag anghydraddoldeb, amddiffyn ein hamgylchedd ynghyd â lles ein hoedolion a’r plant mwyaf bregus yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym nawr yn medru symud ymlaen a gweithio gyda thrigolion a phartneriaid i ail-ddylunio a darparu gwasanaethau sydd yn addas ar gyfer y cyfnod ansicr a heriol hwn.”