Skip to Main Content
Volunteers and officers from Monmouthshire County Council and Powys County Council join forces to tackle litter. Codwyr Sbwriel Llangatwg, staff o Gyngor Sir Powys a Chyngor Sir Fynwy a chynrychiolwyr o Gadwch Gymru’n Daclus.
Codwyr Sbwriel Llangatwg, staff o Gyngor Sir Powys a Chyngor Sir Fynwy a chynrychiolwyr o Gadwch Gymru’n Daclus.

Daeth Codwyr Sbwriel Llangatwg a staff Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Fynwy ynghyd ddydd Iau (23 Mawrth) ar gyfer twtio cymunedol yn yr ardal leol fel rhan o ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru, Cadwch Gymru’n Daclus. 

Wrth weithio gyda’i gilydd, gwnaeth tîm o 17 gwirfoddolwr gael gwared ar dros 20 sach o sbwriel ac ailgylchu yn Llangatwg a’r cyffiniau, ardal brydferth ar y ffin rhwng Powys a Sir Fynwy. Ymunwyd â nhw gan Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, Owen Derbyshire, sy’n teithio ledled y wlad i gyflawni’r gwaith glanhau bob dydd yn ystod digwyddiad Gwanwyn Glân Cymru (17 Mawrth tan 2 Ebrill). 

Gobaith Owen yw ysbrydoli unigolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau i gymryd rhan. Dywedodd: “ “Mae ein neges yn un syml eleni: gall hyd yn oed un sach wneud gwahaniaeth mawr. Boed i lanhau eich cymdogaeth eich hun, eich hoff draeth, parc neu leoliad prydferth – mae pob un darn o sbwriel sy’n cael ei waredu o’r amgylchedd naturiol yn cyfri.

“Mae casglu sbwriel hefyd yn weithgaredd llawn hwyl sydd am ddim ac yn gallu bod o fudd i’ch iechyd, llesiant ac ymwybyddiaeth o falchder yn eich cymuned. Felly mynnwch godwr sbwriel, ewch i’r awyr agored a dangoswch ychydig o gariad at Gymru y gwanwyn hwn.”

Mae’r digwyddiad yn Llangatwg yn un o sawl digwyddiad Cadwch Gymru’n Daclus sy’n digwydd ym Mhowys a Sir Fynwy.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Newid Hinsawdd, y Cynghorydd Catrin Maby: “Mae taflu sbwriel yn ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n effeithio ar gymunedau yn ogystal â chefn gwlad – felly ple fawr yw hwn ar bawb i beidio â gollwng sbwriel!

“Mae ymdrechion yr holl gasglwyr sbwriel gwirfoddol anhygoel yn wirioneddol wneud gwahaniaeth enfawr i fynd i’r afael â’r broblem hon, ac rwy’n gobeithio y bydd Gwanwyn Glân Cymru’n annog rhagor o bobl i helpu eu cymuned leol drwy gymryd rhan. Heddiw, hoffwn ddiolch i gydweithwyr yng Nghynghorau Sir Fynwy a Phowys, Cadwch Gymru’n Daclus a chasglwyr sbwriel Llangatwg” .

Mae Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Wyrddach, y Cynghorydd Jackie Charlton, yn gwirfoddoli’n aml gyda’i grŵp lleol, Codwyr Sbwriel Llangatwg, ac mae’n cael ei chalonogi wrth weld eraill yn gwneud yr un peth. Dywedodd: “Mae wedi bod yn galonogol gweld faint o bobl sydd wedi ymgymryd â’r her eisoes ac ymuno i gadw eu hardaloedd lleol yn lân ac yn wyrdd fel rhan o ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru.”

“Nid yn unig yw mynd allan ac o gwmpas y lle ag eraill i godi sbwriel lleol yn fuddiol i’n hamgylchedd, ond gall fod yn ffordd grêt o gael hwyl a chymdeithasu â phobl o’r un anian. Mae dod ynghyd â’n ffrindiau a chydweithwyr o Sir Fynwy wedi bod o fwynhad arbennig i ni, er budd ein hardaloedd lleol. 

“Gallwch fenthyg cit offer codi sbwriel sy’n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch, oddi wrth rai llyfrgelloedd, felly galwch mewn neu drefnu cit ar gadw ar-lein a gwanwyn glân ar gyfer eich ardal leol yn fuan.” 

Mae Gwanwyn Glân Cymru yn rhan o Garu Cymru – sef menter fwyaf erioed Cadwch Gymru’n Daclus i gael gwared ar sbwriel a gwastraff.

Mae Caru Cymru wedi derbyn nawdd drwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru  2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

I gymryd rhan yng Ngwanwyn Glân Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus:  www.keepwalestidy.cymru