Skip to Main Content

Yng nghyfarfod y cyngor llawn ddydd Iau 19eg Ionawr, rhoddod yr aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Sirol Catrin Maby’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y cynigion ar gyfer pont Teithio Llesol ar draws Afon Gwy yn Nhrefynwy a’r bwriad i osod arwynebedd newydd ar Hen Bont Gwy. Yn amodol ar gael caniatâd cynllunio a chyllid, y gobaith yw cychwyn ar y gwaith adeiladu ar y bont newydd yn 2024/25.

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Catrin Maby: “Rwy’n falch iawn bod cynigion newydd Pont Gwy ar deithio llesol wedi gwneud cynnydd sylweddol ac mae cais cynllunio bellach wedi’i gyflwyno.   Mae’r cynlluniau ar gael i’w gweld, a gwneud sylwadau arnynt, ar wefan y Cyngor yma: https://planningonline.monmouthshire.gov.uk/online-applications/?lang=CY drwy nodi’r cyfeirnod cais DM/2022/01800.  Mae cyfrifiaduron mynediad i’r cyhoedd ar gael yn llyfrgell Trefynwy os oes angen.

“Mae cefnogi Teithio Llesol yn rhan hanfodol o’n gwaith i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.  Bydd y bont newydd hon yn galluogi mwy o bobl i adael y car gartref a theithio ar droed neu ar feic i ffwrdd o’r traffig, gan wneud cymudo yn haws, yn fwy pleserus ac yn fwy ecogyfeillgar.  Mae’r bont newydd yn darparu llwybr diogel rhwng Wyesham a Threfynwy ac fe fydd yn ychwanegol i’r palmentydd presennol ar hen Bont Gwy, fydd yn aros mewn lle.”

Mae’r bont yn rhan o gyfres gynhwysfawr o gynlluniau Teithio Llesol ar gyfer y dref, gyda’r gwelliannau a gynigir yn cysylltu Wyesham â’r bont newydd ac o’r bont newydd i ddatblygiad Porth Kingswood.   Am fwy o wybodaeth am Deithio Llesol yn Nhrefynwy ewch i https://www.monlife.co.uk/outdoor/active-travel/monmouth/

Ychwanegodd y Cynghorydd Maby: “Nid yw’r prosiect cyffrous hwn, wrth gwrs, yn amharu ar yr angen i sicrhau bod hen Bont Gwy yn addas i’w ddefnyddio. Mae cyflwr y briffordd hon wedi bod yn bryder hirsefydlog ond mae gwaith gwella wedi’i atal wrth i ni aros am waith atgyweirio ar strwythur y bwâu rheilffordd a’r prif bibellau cyfleustodau. Mae’r gwaith hynny bellach wedi’u cwblhau ac mae paratoadau i roi arwynebedd newydd ar y briffordd yn cael eu gwneud.

“Mae tîm y Briffordd yn paratoi dyluniad a manyleb contract y gwaith adnewyddu.   Ar ôl ei gwblhau, bydd tendrau ar gyfer adnewyddu’r briffordd yn cael eu gwahodd, gyda’r dyddiad cwblhau disgwyliedig yr haf hwn.  Yn anffodus, bydd y gweithiau hyn, sydd wir eu hangen, yn amharu ar y gymuned leol oherwydd y trefniadau rheoli traffig ac efallai y bydd angen hyd yn oed cau’r ffordd i gerbydau am gyfnod byr.  Bydd y tîm Priffyrdd yn rhannu manylion am yr amseru a’r aflonyddwch posibl gydag aelodau lleol unwaith y bydd y contractwr wedi’i benodi ac mae’r rhaglen fanwl wedi’i drafftio, gyda chyfathrebu cysylltiedig i roi gwybod i’r gymuned ehangach.”