Skip to Main Content
event poster featuring Noel Gallagher

Mae un o enwau mwyaf adnabyddus diwydiant cerddoriaeth y DU newydd gadarnhau eu bod yn dod i Sir Fynwy yn haf 2023. Mae High Flying Birds Noel Gallagher wedi cadarnhau eu bod yn chwarae dyddiad arbennig yng Nghastell Cil-y-coed, ddydd Sadwrn 19eg Awst.

Yn aml yn cyflwyno perfformiadau o’r radd flaenaf mewn lleoliadau awyr agored o fri, bydd High Flying Birds Noel Gallagher yn perfformio sioe untro ar dir y castell, a fydd yn cynnwys detholiad o ganeuon mwyaf poblogaidd y band, o Oasis i ffefrynnau radio cyfoes. Mae High Flying Birds Noel Gallagher, ers 2011, wedi rhyddhau tri albwm stiwdio, casgliad o EPs ac wedi chwarae cannoedd o sioeau byw ledled y DU.  Yn haf 2022, cwblhaodd y band daith ledled y wlad o sioeau awyr agored gyda set ar Lwyfan y Pyramid yn Ynys Wydrin.

Mae’r cyhoeddiad am ddyddiad Castell Cil-y-coed yn dilyn rhyddhau sengl newydd sbon y band ‘Pretty Boy’, a ymddangosodd yn ddiweddar fel Record yr Wythnos ar BBC Radio 2. Mae’r trac yn nodi dechrau pennod greadigol newydd a cherddoriaeth newydd gyntaf o albwm stiwdio newydd Noel sydd i ddod, a fydd yn cael ei ryddhau’r flwyddyn nesaf.

Castell Cil-y-coed
Castell Cil-y-coed

Mae Castell Cil-y-coed wedi ennill enw da am gynnal bandiau enwog sydd ar frig y siartiau, gan gynnwys y band merched Little Mix, ym mis Awst 2017, a Status Quo yn haf 2015. Mor ddiweddar â mis Medi 2022, roedd y castell yn gartref i fand gwerin lleol sydd wedi ennill dilyniant enfawr, Rusty Shackle, gan nodi rhyddhau eu halbwm diweddaraf.

Pan fyddan nhw’n dod i Gil-y-coed, bydd High Flying Birds Noel Gallagher yn cael eu cefnogi gan y ffefrynnau lleol Feeder.  Ers ei ffurfio ym 1994, mae’r band wedi rhyddhau 11 albwm stiwdio ac wedi treulio cyfanswm cyfun o 184 wythnos ar y siart senglau ac albymau. Daeth eu halbwm uchel ei glod ‘Torpedo’ allan yn gynharach eleni gan barhau â fformiwla fuddugol y band gyda byrdynau mawr, emosiynau mwy, ac, wrth gwrs, alawon enfawr.

Bydd Goldie Lookin’ Chain o Gasnewydd yn ymuno â nhw, yn swyddogol grŵp rap mwyaf Prydain.  Yn adnabyddus am ‘Guns don’t kill people rappers do’, mae’r grŵp wedi rhyddhau 18 albwm dros eu gyrfa 22 mlynedd.

Meddai Pablo Janczur, hyrwyddwr Orchard Live: “Rydym yn gyffrous iawn am y sioe wirioneddol enfawr hon sy’n dod i Gastell Cil-y-coed. Rydym wedi bod eisiau dod â dewis roc gwych i’r lleoliad hwn ers peth amser a beth sy’n well na High Flying Birds Noel Gallagher yn cael eu cefnogi gan Feeder ar noson hyfryd o haf. Mae’n mynd i fod yn ddiwrnod anhygoel.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Sirol Mary Ann Brocklesby:  “Rwy’n hynod falch y byddwn yn llwyfannu cyngerdd arall o’r radd flaenaf yn lleoliad prydferth Castell Cil-y-coed yr haf hwn.  Rydym yn edrych ymlaen at groesawu High Flying Birds Noel Gallagher, Feeder a Goldie Lookin’ Chain, yn ogystal â miloedd o ymwelwyr a thrigolion i’r hyn sy’n addo bod yn noson arbennig iawn.”

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am MonLife: “Mae’n gyffrous iawn gweld gweithredoedd o safon mor uchel yn dod i Sir Fynwy, a hefyd yn newyddion gwych bod y trefnwyr wedi rhoi cyfle i drigolion lleol sicrhau tocynnau cyn i’r gwerthiant cyffredinol ddigwydd.  Mae Castell Cil-y-coed yn lleoliad mor brydferth ac rydym yn falch iawn ohono – mae ganddo gymaint i’w gynnig fel lleoliad cyngerdd, yn ogystal â bod yn atyniad aruthrol i’r teulu gyfan drwy’r flwyddyn. Rydym yn edrych ymlaen at weld pawb yn y castell ar Awst 19eg y flwyddyn nesaf.”

Cost y tocynnau yw £61.88 yr un, yn cynnwys ffioedd, ac maent ar Werth Cyffredinol o 10am ddydd Gwener 16eg Rhagfyr, ond gall trigolion Sir Fynwy gael eu tocynnau’n gynt na hynny. Mae’r trefnwyr wedi trefnu Gwerthiant arbennig o flaen llaw ar gyfer cefnogwyr lleol o 10am ddydd Mercher 14eg Rhagfyr trwy http://www.gigantic.com/noel-gallaghers-high-flying-birds-tickets-presale-9868

Cadarnhawyd hefyd y bydd trigolion lleol rhan o’r cynlluniau yn y cyfnod yn agosach at y digwyddiad, er mwyn sicrhau cyn lleied o effaith â phosib ar gymuned Cil-y-coed. Mae gwybodaeth lawn am ddigwyddiadau ar gael yn www.monlife.co.uk/cy/heritage/caldicot-castle-and-country-park/