Skip to Main Content

Hoffem gynnig ein cydymdeimlad dwysaf i deulu’r Cynghorydd  David Evans. Etholwyd Dave yn gyntaf i’r Cyngor ar 1af Mai 2008 yn cynrychioli’r ward West End ac roedd wedi parhau i gynrychioli’r ward tan iddo ymddeol ym Mai 2022. Roedd wedi llwyr ymroi i gymuned Cil-y-coed ac roedd wedi parhau’n Gynghorydd tref ar gyfer West End tan iddo farw. 

Roedd Dave yn gadeirydd ar bwyllgor gwasanaethau democrataidd y Cyngor Sir nifer o weithiau, a bu’n aelod o’r rhan fwyaf o bwyllgorau gydag ystod eang o brofiad a dealltwriaeth o waith amrywiol y Cyngor.  

Roedd Dave wrth ei fodd yn gwasanaethu ei gymuned leol ac yn falch iawn i fod yn Faer ar Gil-y-coed,   yn cadeirio’r pwyllgor digwyddiadau, yn rheoli’r carnifal, goleuadau Nadolig,  a digwyddiadau tân gwyllt ayyb.

Roedd Dave yn Gynghorydd caredig, ymroddedig a chefnogol a bydd hiraeth ar ei ôl.