Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi derbyn cadarnhad heddiw gan Lywodraeth Cymru y bydd yn derbyn cynnydd o 9.3% yn ei gyllid craidd y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cymharu gyda  chyfartaledd o 7.9% ar gyfer Cymru – mae Cynghorau ar draws Cymru wedi bod yn derbyn setliadau sydd yn amrywio  o 6.5% i 9.3%.  Mae’r newyddion hyn wedi ei groesawu ac yn mynd i leihau’r angen am nifer o arbedion a fyddai fel arall wedi effeithio ar wasanaethau.    

Dywedodd y Cyngh. Mary Ann Brocklesby, yr Arweinydd: “Mae hyn yn setliad gwell na’r disgwyl ar gyfer llywodraethau lleol gan Lywodraeth Cymru, sydd yn cydnabod y rôl anhygoel y mae ein gwasanaethau lleol yn chwarae ar y cyd gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Rwyf yn gwerthfawrogi bod Gweinidogion Cymru wedi gwrando arnom fel arweinwyr y Cynghorau.  Nid oedd datganiad yr Hydref gan y Canghellor yn ddigon i amddiffyn cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus rhag yr heriau anhygoel sydd wedi ei achosi gan rai o’r lefelau chwyddiant uchaf erioed. Mae hyn yn dangos beth sydd yn medru cael ei gyflawni ar ran cymunedau yng Nghymru pan mae llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn cydweithio.

“Er y cynnydd yn y cyllid y flwyddyn nesaf, mae’r Cyngor yn dioddef yn yr un ffordd â thrigolion gan ein bod yng nghanol argyfwng costau byw. Mae’r galw ar wasanaethau a’r pwysau chwyddiant dipyn yn fwy na’r cyllid ychwanegol sydd wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru a bydd dal rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau yn parhau’n hyfyw a’n gynaliadwy. Bydd ein ffocws ar barhau i amddiffyn y rhai hynny sydd  yn fwyaf bregus ac sydd yn anghenus ar draws Sir Fynwy.”

Dywedodd y Cyngh. Rachel Garrick, Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau: “Mae’r setliad cychwynnol wedi cynnig  hanner achubiaeth i’r Cyngor. Mae gwasanaethau yn parhau o dan bwysau sylweddol ac rydym yn gweld bod y cyllid gan Lywodraeth y DU yn parhau  dipyn yn is na chwyddiant a’r galw am wasanaethau. Tra bod y setliad ychydig yn uwch na’r cyfartaledd a bod hyn i’w groesawu, rhaid i ni gydnabod bod y Cyngor dal ar waelod y tabl o ran cyllid y pen sy’n cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, sydd  yn golygu bod rhaid i’r Cyngor gasglu cyfran uwch o’i gyllid drwy y dreth gyngor a ffynonellau eraill, a hynny o’i gymharu gyda Chynghorau eraill.”

Bydd cynigion cyllideb drafft y Cyngor yn cael eu hystyried gan y  Cabinet mewn cyfarfod ar 18fed Ionawr 2023 ac yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd y gymuned leol a mudiadau partner wedyn yn cael cyfle i rannu eu barn ar y cynigion mewn digwyddiadau wyneb i wyneb, digwyddiadau ffrydio byw Teams neu ar-lein. Mae mwy o wybodaeth ar wefan y Cyngor –  monmouthshire.gov.uk – a bydd manylion am y digwyddiadau ymgynghori a gwybodaeth am yr arolwg yn cael eu rhannu yn y Flwyddyn Newydd.”