Skip to Main Content
young girl and boy in foster family

Mae gan Sir Fynwy ofalwyr maeth bendigedig, ond yn anffodus nid oes digon, sy’n golygu bod plant a phobl ifanc yn tyfu heb le y gallant ei alw’n gartref.  I’r plant hynny, eu hunig ddymuniad Nadolig yw bod yn rhan o deulu cariadus, a dyna pam mae Cyngor Sir Fynwy yn chwilio am fwy o ofalwyr maeth ar frys.

Mae Maethu Cymru Sir Fynwy yn chwilio am gartrefi i’r plant yma, ac yn galw ar drigolion Sir Fynwy i ystyried maethu. Fel gofalwr maeth byddwch yn derbyn lwfans ar gyfer pob plentyn maeth sydd yn eich gofal, ac fel rhiant maeth byddwch hefyd yn derbyn lwfans. Mae’n ymwneud â gofalu am y pethau dyddiol, yn ogystal â helpu i greu atgofion mwy arbennig. Bydd tîm maethu Sir Fynwy hefyd yno i ddarparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol ardderchog i chi a’ch plentyn maeth ar hyd ei daith.

Dywedodd Aelod Cabinet Sir Fynwy sydd â chyfrifoldeb am ei wasanaeth maethu, y Cynghorydd Tudor Thomas:

“Os ydych wedi ystyried maethu yn y gorffennol, dewch draw i’n sesiynau galw heibio i siarad â ni – gallai newid bywydau. Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth ardderchog i ofalwyr maeth ac mae wir mor werth chweil. Ystyriwch gymryd y cam cyntaf i drawsnewid bywyd plentyn neu berson ifanc heddiw.”

Os ydych erioed wedi meddwl am faethu, ac mae gennych ystafell sbâr yn eich cartref, cysylltwch â ni heddiw. Bydd yr hyn allwch chi ei gynnig i blentyn yn newid bywyd iddynt.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau galw heibio o amgylch y Sir, felly galwch draw am sgwrs anffurfiol am faethu yn y lleoliadau canlynol:

Neuadd y Sir, Trefynwy 25ain Tachwedd 10am-3pm, Waitrose Y Fenni 29ain Tachwedd 1pm-6pm, Marchnad y Fenni 6ed Rhagfyr 10am-3pm, Waitrose Y Fenni 7fed Rhagfyr 1pm-6pm, Hyb Cil-y-coed 9fed Rhagfyr 10am-3pm, Waitrose Trefynwy ar 12 Rhagfyr 1pm-5pm, Waitrose Trefynwy ar 16 Rhagfyr 2pm-3:30pm.

I unrhyw un sydd wedi meddwl am faethu ond erioed wedi gwneud y cam cyntaf, dyma ychydig o wybodaeth am blentyn lleol sydd angen cartref ar frys heddiw.   Mae Ellie (nid ei henw iawn) yn byw mewn cartref plant ar hyn o bryd .  Mae hi wrth ei bodd gyda sglefrio rholio, dawnsio a bwyta pitsa, a’i hoff ffilm yw Encanto. Mae’n cael ei disgrifio gan bobl sy’n ei hadnabod, fel merch fach sy’n garedig, yn ystyriol ac yn empathig.  Mae’r Nadolig yn gyfnod anodd iawn i Ellie gan ei fod atgof iddi nad oes ganddi deulu na chartref ei hun.Mae’r ferch fach honmor daer am deulu mae hi wedi gofyn i’w ffrindiau ar y maes chwarae os oes ganddyn nhw le gartref i ‘un plentyn arall’.  Mae Ellie wedi dweud wrthym ei bod eisiau byw gyda phobl sy’n ‘neis’, a fydd yn ‘garedig’ wrthi ac a fydd yn ‘gofalu amdani’. Osydych yn meddwl y gallech chi gynnig cartref i Ellie, cysylltwch â’r tîm heddiw.

Neu gallwch ffonio: 01291 635682 neu fynd ar-lein
https://fosterwales.monmouthshire.gov.uk/cy/

Ebost: foster@monmouthshire.gov.uk