Skip to Main Content
Y gwaith celf cymunedol a osodwyd ym Mharc Baeol, y Fenni
Y gwaith celf cymunedol a osodwyd ym Mharc Baeol, y Fenni

Mae gwaith celf newydd wedi cael ei ysbrydoli gan natur yn ymddangos mewn mannau gwyrdd ar draws  Gwent, gan annog mwy o bobl i werthfawrogi’r natur yr ydym yn gweld yn ein cymunedau.

Mae’r darnau wedi eu datblygu fel rhan o’r prosiect Natur Wyllt, ac yn anelu i godi ymwybyddiaeth o’r dirywiad ymhlith pryfed peillio a’n annog gweithredu ar lefel leol, sydd yn atgyfnerthu   dull rhanbarthol o reoli dolydd ar draws ardal Gwent.

Dros yr haf, mae cymunedau wedi bod yn brysur yn dylunio a’n adeiladu gwaith celf mosäig gyda’r arlunydd Stephanie Roberts, sydd yn adlewyrchu harddwch natur yn eu mannau gwyrdd lleol.

Mae’r gwaith celf wedi eu gosod ar hyd  a lled Gwent, sef yng Ngilfach, Bargoed, Parc Bryn Bach, Tredegar, Maes Cymunedol Rogerstone, Rogerstone, Fairhill a Chwmbrân.

Logo Natur Wyllt yn y Gymraeg a’r Saesneg gyda gwenyn a blodau

Mae Parc Bailey, yn y Fenni, yn gartref i  gerflunwaith Sir Fynwy, sydd yn agos at y Clwb Rygbi. Mae’r mosäig yn dathlu’r blodyn llygad y dydd a’i rôl ar gyfer pryfed peillio gyda chwilen flodau coes drwchus  symudliw yn  seren y sioe. 

Mae’r gwaith celf cymunedol newydd yn dathlu’r berthynas rhwng blodau gwyllt, pryfed peillio a phobl Gwent. Y gwaith celf fydd y pwynt ffocws ar gyfer dathliad yn y gwanwyn, gan ddisgwyl ymlaen at dymor cyffrous o natur.  

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cyngh. Catrin Maby: “Mae’r gwaith celf newydd yn dathlu gwaith Natur Wyllt a’r effaith bositif y mae’n cael ar fywyd gwyllt a phryfed peillio ar draws  Gwent. Mae dewis cyfnodau penodol i dorri’r glaswellt yn caniatáu i’r glaswellt a’r blodau gwyllt i ffynnu am gyfnod hirach ac mae hyn yn caniatáu iddynt gefnogi pryfed peillio ac ystod amrywiol o fywyd gwyllt yn gyffredinol.”

Dywedodd y Cyngh. Sara Burch, Aelod Cabinet  ar gyfer Cymunedau Byw a Chynhwysol: “Mae’n ffantastig i weld y prosiect cymunedol hwn yn chwarae’r fath rôl flaenllaw ym Mharc Bailey. Roedd yn galondid i weld cynifer o bobl leol a oedd wedi mynychu’r gweithdai er mwyn gweithio ar y gwaith celf yma dros yr haf. Mae’n dyst i Natur Wyllt ond hefyd i’r ysbryd cymunedol yn y Fenni.” 

Mae’r prosiect celf cymunedol yma yn cael ei gefnogi gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig sydd yn cael ei ariannu gan raglen Llywodraeth Cymru, Grant Caniatáu Adnoddau Naturiol a Llesiant.