Skip to Main Content

Mae pwysau mawr amlwg ar ddod wrth i Gyngor Sir Fynwy gyrraedd y broses o osod y gyllideb ar gyfer 2023/24. Yn union fel pob busnes ac aelwyd arall, rydym yn gorfod delio â llawer o ffactorau.  Mae chwyddiant uchel, costau ynni a thanwydd, a mwy o alw ar ofal cymdeithasol oll yn chwarae rhan fawr, yn ogystal â’r angen i gadw i fyny â chwyddiant drwy ddyfarniadau cyflog i’n staff. Mae maint y pwysau sy’n cael eu profi gan y cyngor heb ei debyg o’r blaen. Rydym eisoes angen atal gwerth £8.8 miliwn o bwysau ariannol yn y flwyddyn gyfredol, fel yr adroddwyd yn ddiweddar drwy’r Cabinet. O ganlyniad i ddiweddariad o’n modelu cyllideb a’n rhagdybiaethau, rydym bellach yn rhagweld diffyg digynsail o £23 miliwn yn 2023/24. I gynnig persbectif ar hyn, mae’r diffyg hynny’n sefyll yn erbyn cost net gwasanaethau gwerth £168 miliwn.

Nid ydym ar ein pennau ein hunain wrth gydnabod y diffyg hwn na welwyd ei debyg o’r blaen.  Mae cynghorau ledled Cymru yn cyhoeddi sefyllfaoedd tebyg. Os nad yw pwysau a chwyddiant cost uchel yn cael eu paru gan gynnydd mewn gwariant cyhoeddus, bydd y bwlch ariannu sy’n dilyn yn fawr a’r canlyniadau i wasanaethau cyhoeddus yn ddifrifol.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Rydym yn hynod ymwybodol o effaith ddinistriol yr argyfwng costau byw ar bobl sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Fynwy, gan gynnwys ein staff ein hunain.

Ein nod bob amser fydd amddiffyn y preswylwyr mwyaf agored i niwed yn Sir Fynwy, oedolion a phlant fel ei gilydd, er gwaethaf yr heriau digynsail rydym yn eu hwynebu nawr.  Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â phob cynghorydd, ein trigolion, cynghorau tref ac eraill er mwyn canfod ffyrdd i leddfu’r gwaethaf o’r effaith.”

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, y Cynghorydd Rachel Garrick: “Mae angen i ni wneud penderfyniadau anhygoel o anodd ar sut rydym yn parhau i ddarparu gwasanaethau. Heb arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, mae’n rhaid i ni ystyried sut y byddwn yn dod o hyd i werth £23 miliwn o arbedion. Er mwyn mynd i’r afael â’r raddfa yn y diffyg, bydd angen ystyried cynnydd i refeniw a gostyngiadau mewn costau a gwasanaethau.  Mae angen i ni gydweithio gyda’r holl gynghorwyr ac mewn ymgynghoriad â’n trigolion i benderfynu ar yr opsiynau mwyaf derbyniol ar gyfer ein sir. Nid oes atebion hawdd i’r sefyllfa ddigynsail bresennol mewn gwariant cyhoeddus; mae cynghorau ar hyd a lled Cymru’n wynebu penderfyniadau caled o ran toriadau i wasanaethau.”