Mae 14 o ysgolion yn Sir Fynwy yn symud ymlaen tuag at nodau sero net diolch i fenter ddatgarboneiddio uchelgeisiol ledled y sir a ddarperir gan Gyngor Sir Fynwy mewn partneriaeth â chwmni SSE Energy Solutions.
Aseswyd ysgolion fel Ysgol Gyfun a Chanolfan Hamdden Cas-gwent i nodi pa fesurau allweddol yr oedd angen eu cymryd er mwyn sicrhau bod pob adeilad yn gweithredu ar effeithlonrwydd ynni gorau posibl, a nodwyd sut y gallant gynhyrchu ffynonellau unigol o ynni glân orau, megis paneli ynni haul ffotofoltäig ar doeau neu byrth ceir.
Mae’r prosiect hwn wedi lleihau allyriadau carbon o 22 adeilad sy’n eiddo i’r cyngor hyd yma, gan gynnwys swyddfeydd a chanolfannau hamdden, yn ogystal ag ysgolion. Disgwylir i’r fenter ddarparu arbedion o hyd at 1,704,443 kWh/443tCO2 – mewn cyfateb, dyma’r ynni sy’n cael ei ddefnyddio gan 600 o dai – a gwerth £253,916 mewn biliau ynni.
Dywedodd y Cynghorydd Sirol Catrin Maby, yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae’n hanfodol ein bod yn dod o hyd i ffyrdd newydd o ddatgarboneiddio ein seilwaith presennol os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau sy’n achub yr hinsawdd yn llwyddiannus. Rhoddodd SSE ateb gwych i’r her hon drwy adnabod a chyflwyno nifer o fesurau’n llwyddiannus sydd wedi gwneud nifer sylweddol o adeiladau cymunedol yn llawer mwy effeithlon o ran ynni. Er enghraifft, yn Ysgol Gyfun a Chanolfan Hamdden Cas-gwent, bydd y goleuadau LED, boeleri effeithlonrwydd uchel a Gwres a Phŵer Cyfunol, uned trin aer newydd a phorth ceir ynni haul gyda’i gilydd yn arbed gwerth dros £100,000 o gostau ynni a 226 tunnell o garbon bob blwyddyn.”
“Yn 2019, pasiodd y cyngor gynnig yn datgan argyfwng yn yr hinsawdd, a gwnaeth ymrwymiad polisi clir i’r cyngor weithio gyda phartneriaid ar draws y sir, cynghorau a sefydliadau eraill fel SSE i gyrraedd ein nodau datgarboneiddio uchelgeisiol, gan sicrhau bod ein cymuned yn elwa o’r buddion amgylcheddol ac ariannol am flynyddoedd i ddod.”
Mae Cyngor Sir Fynwy eisoes yn ystyried opsiynau i weithio ymhellach gyda SSE i ddatblygu ail gam a fydd yn cynnwys adeiladau ychwanegol, cwmpas ehangach o fesurau datgarboneiddio, a’r potensial ar gyfer prosiectau isadeiledd mwy fel hybiau gwefru cerbydau trydanol a ffermydd ynni haul.
Am fwy o wybodaeth ewch i: Argyfwng yn yr Hinsawdd – Sir Fynwy