Skip to Main Content
English certificate (Welsh not supplied by Sustain). Wording: Monmouthshire County Council. Recognised for leadership on food and climate change in the Every Mouthful Counts report, 2022.  See the full results: www.foodfortheplanet.org.uk
Tystysgrif wedi ei chyflwyno  gan Sustain ar gyfer cyraeddiadau’r Cyngor yn yr adroddiad ‘Every Mouthful Counts’ 2022

Mae adroddiad sydd newydd wedi ei gyhoeddi gan yr elusen fwyd a ffermio, Sustain, yn cydnabod rôl Cyngor Sir Fynwy am y gwaith sylweddol y mae wedi gwneud yn mynd i’r afael gyda’r argyfwng hinsawdd.  

O’r 200 awdurdod lleol yn y DU, dim ond 12% (21 Cyngor) sydd wedi gwneud camau breision gyda’u cynlluniau i fynd i’r afael gyda newid hinsawdd, a hynny yn ôl yr adroddiad  ‘Every Mouthful Counts’ a gyhoeddwyd ar ddydd Iau 10fed Tachwedd. Mae Cyngor Sir Fynwy yn un o dri Chyngor yng Nghymru sydd wedi eu cynnwys ar y rhestr am arwain yr ymdrechion yma.  

Yn gwario tua £70 biliwn  bob blwyddyn ar gaffael, ac yn berchen hyd at 1.3 miliwn o erwau o dir ar draws y DU, mae cyfleoedd sylweddol gan Gynghorau i gymryd camau er mwyn delio gyda newid hinsawdd. Mae Sustain wedi dod o hyd i dystiolaeth bod y Cynghorau sydd yn perfformio’n dda ac yn gweithredu ar fwyd a ffermio yn mynd ati i brynu bwyd cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau arlwyo’r Cyngor, yn sicrhau bod eu ffermydd sirol yn gynaliadwy, yn clustnodi tir ar gyfer tyfu bwyd yn lleol a’n cefnogi dinasyddion i gael deiet mwy iachus a chynaliadwy. Ond mae’r canfyddiadau o  adroddiad Sustain yn dangos nad yw’r mwyafrif yn gwneud hyn.   

Mae gwasanaethau’r Cyngor a’r gwaith o greu bwyd yn y DU eisoes yn cael ei aflonyddu gan dywydd eithafol. Mae’r cynnydd mewn prisiau bwyd sydd wedi ei achosi gan newid hinsawdd yn mynd i gostio pob un aelwyd yn y DU tua £170 ar gyfartaledd eleni. Mae ffermwyr eisoes yn profi colledion  o’r tywydd eithafol yn haf 2022, ac mae yna lifogydd peryglus o bosib yn mynd i ddigwydd ym mis Chwefror.  

Roedd Sustain wedi ystyried cynlluniau hinsawdd, bioamrywiaeth a bwyd 179 o Awdurdodau Lleol yn y DU ac wedi canfod fod:

  • Chwe ym mhob deg Cyngor (59 y cant) heb gynnwys unrhyw gamau sylweddol neu bwrpasol er mwyn lleihau allyriadau o fwyd a ffermio  
  • 29 y cant yn meddu ar ‘amlinelliad cyffredinol iawn’ o bolisïau neu gynlluniau  
  • Dim ond 21 Cyngor (tua 12%) sydd wedi datblygu polisïau mesuradwy er mwyn lleihau allyriadau sydd yn ymwneud gyda bwyd. Maent yn cael eu hadnabod fel arweinwyr yn y maes.

Dywedodd y Cyngh. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Rwyf wrth fy modd fod Sir Fynwy wedi ei gydnabod am y camau yr ydym yn cymryd o ran bwyd, ffermio a’r argyfwng hinsawdd. Mae mynd i’r afael gyda’r argyfwng hinsawdd a natur yn rhan annatod o sut ydym yn gweithredu. Mae cryn dipyn o ffordd gennym i fynd ond rydym wedi ymrwymo i fod yn carbon sero net tra’n amddiffyn ein bioamrywiaeth a lles ein trigolion drwy’r gefnogaeth yr ydym yn rhoi i’n systemau bwyd a ffermio. Mae’r ffaith bod eraill yn ystyried ein bod yn gwneud gwahaniaeth yn deyrnged i waith caled ein holl staff a’r partneriaethau y  maent wedi mabwysiadu gyda chymunedau, mudiadau a busnesau yn Sir Fynwy a thu hwnt.”

Leader Cllr. Mary Ann Brocklesby
Cyngh. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Yn Sir Fynwy, mae ein hymdrechion i fynd i’r afael gyda’r argyfwng hinsawdd yn bellgyrhaeddol ac yn cyffwrdd â phob agwedd o’n gwaith. Mae hyn yn cynnwys cefnogi cynhyrchwyr lleol, cyflwyno cerbydau trydan i’n fflyd o fysiau a chefnogi bioamrywiaeth gyda’n gwaith Natur Wyllt, a hynny ymhlith nifer o bethau eraill. Rwyf yn falch fod gwaith parhaus Sir Fynwy yn derbyn y fath gydnabyddiaeth.”

Cllr Catrin Maby
Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Newid Hinsawdd
Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Newid Hinsawdd

Dywedodd Ruth Westcott, cydlynydd yr argyfwng hinsawdd a natur yn Sustain:“Yn y DU, mae potensial sylweddol gennym i dyfu mwy o fwyd, yn fwy cynaliadwy, cefnogi ffermwyr cynaliadwy gwych a mynd i’r afael gyda’r argyfwng costau bwyd a’r argyfwng hinsawdd.

“Roeddem wedi dod ar draws enghreifftiau o Gynghorau lleol yn gwneud gwaith gwych ac mae llawer y maent yn medru ei wneud, a hynny o wneud eu ffermydd eu hunain yn fwy cynaliadwy i leihau’r gwastraff bwyd a mynnu safonau gwell o ran bwyd gan ffermwyr Prydain ar gyfer y contractau bwyd. Mae ein rhaglen Food for the Planet yn llawn syniadau, gan ddefnyddio enghreifftiau o lefydd eraill sydd eisoes yn gwneud y gwaith hwn. Rydym hefyd am weld Cynghorau yn mynd ymhellach – yn mabwysiadu polisïau hysbysebu bwyd cyfrifol, yn defnyddio pwerau cynllunio er mwyn cefnogi ffermio cynaliadwy ond atal unrhyw ffermio ar raddfa enfawr sydd yn llygru a thynnu eu pensiynau o’r potiau amaethu dwys.   

“Mae ein hymchwil yn dangos hefyd pa mor bwysig yw arweinyddiaeth genedlaethol. Rydym nawr yn galw ar yr holl lywodraethau cenedlaethol i arwain y ffordd. Rhaid i Lywodraeth San Steffan osod targedau clir a llwybr ar gyfer lleihau allyriadau o fwyd a ffermio yn strategaeth sero net y DU. Dylai hyn gynnwys targedau ar gyfer llywodraethu lleol – ac fel man cychwyn – gosod safonau er mwyn sicrhau bod yr holl brydau bwyd yn y sector yn adlewyrchu’r Canllaw Bwyta’n Dda. Rhaid i Gynghorau dderbyn yr adnoddau sydd angen arnynt er mwyn symud at ffermio mwy cynaliadwy a deiet ar lefel leol.”

Cynghorau sy’n arwain y ffordd

Mae’r adroddiad yn darparu tystiolaeth o allu Cynghorau i weithredu, gydag awdurdodau arloesol yn cynnwys Brighton a Hove, Bryste, Caerdydd, Canol Swydd  Bedford, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Clackmannanshire, Dyfnaint, Dorset, Ealing, East Ayrshire, East Lothian, Glasgow, Greenwich, Middlesbrough, Sir Fynwy, Gwlad yr Haf, Surrey, Telford a Wrekin, Tower Hamlets a Bro Morgannwg sydd oll yn cymryd camau drwy brynu bwyd iachus a chynaliadwy ar gyfer ysgolion; prydau ar glyd yn y gymuned; arlwyo ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol; arlwyo ar gyfer staff a digwyddiadau. Mae prynu bwyd yn cynnwys prynu tua thair miliwn o brydau’n ddyddiol mewn mwy na 23,000 o ysgolion gwladwriaethol, gyda throsiant blynyddol o fwy na £360 miliwn ar draws y DU. Mae’r Cynghorau sydd ar flaen y gad wedi sefydlu systemau pwrcasu lleol ac yn annog deiet sydd yn well ar gyfer yr hinsawdd drwy gyfathrebu gyda’r cyhoedd. Mae Cynghorau eraill yn cynyddu faint o randiroedd sydd ar gael a’r ddarpariaeth ar gyfer tyfu bwyd ar lefel gymunedol, gan sicrhau bod ffermydd sy’n berchen i’r Cyngor yn dechrau defnyddio arferion ‘agroecological’ a’n mynd i’r afael gyda’r hyn sydd yn achosi gwastraff bwyd.