Skip to Main Content

Mae cynghorau ar draws Cymru yn wynebu pwysau ariannol digynsail a dyw Sir Fynwy ddim yn eithriad.  Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn tynnu sylw at ragolygon o bwysau cyllideb o £8.8miliwn yn y flwyddyn ariannol bresennol.  Y prif feysydd o bwysau parhaus yw’r lefelau uchaf erioed o leoliadau gofal cymdeithasol i oedolion, y galw am leoliadau plant drud a chymhleth iawn, digartrefedd ar lefelau anhysbys blaenorol a chostau trafnidiaeth ysgol yn cynyddu drwy brisiau tanwydd a marchnad drafnidiaeth ansefydlog iawn. Mae’r argyfwng costau byw a phwysau chwyddiant eraill wedi cyfuno i ddarparu sefyllfa economaidd sydd wedi achosi heriau difrifol i’n cyllideb.  Mae’r rhain ond wedi gwaethygu yn ystod y dyddiau diwethaf gyda’r Gyllideb fach yn arwain at gynydd mewn cyfraddau llog.

Ar ôl adolygu’r sefyllfa, mae Sir Fynwy yn disgwyl diffyg yn y gyllideb o £8.8 miliwn eleni.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, y Cynghorydd Sirol Rachel Garrick: “Rydym yn gweithio gyda swyddogion i nodi arbedion sylweddol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol.  Bydd angen gwneud penderfyniadau anodd.  Rydym yn deall na allwn wario arian nad oes gennym.  Byddwn yn gweithio gyda phawb sy’n defnyddio ac yn darparu ein gwasanaethau i ddod o hyd i ffyrdd newydd ymlaen sy’n amddiffyn ein trigolion mwyaf agored i niwed, ein gwasanaethau a’n cymunedau.”

Y Cynghorydd Dywedodd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy:  “Does dim atebion hawdd i’r sefyllfa yma, a fydd yn effeithio ar bawb ar draws y sir. Rwy’n ddiolchgar am y gwaith a wnaed eisoes wrth dynnu sylw at fater y mae’n rhaid ei wynebu.  Blaenoriaeth y Weinyddiaeth hon yw mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a bod yn geidwaid da ein hamgylchedd naturiol wrth i ni addasu i fyd sy’n cael ei effeithio gan newid hinsawdd.  Mae angen gwasanaethau o safon uchel ar waith sy’n atal pobl rhag syrthio i argyfyngau a helpu’r rhai sy’n gwneud i adennill rheolaeth ar eu bywydau.  Nid yw hyn yn her hawdd i ddelio a hi ac mae’n bwysig ein bod yn rhoi’r amser i ni’n hunain i lunio ymateb meddylgar iddi.”