Skip to Main Content

Yn ystod Hydref 2022, mae’r Cyngor wedi cadarnhau y bydd yn parhau gyda’r rhaglen o brofi diogelwch y cerrig beddi yn yr holl fynwentydd, gan ddechrau ym mynwent Cas-gwent.   

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am sicrhau, cyn belled ag sydd yn bosib, bod y sawl sydd yn ymweld neu’n gweithio yn y mynwentydd yn ddiogel, ac mae gwirio sefydlogrwydd y cerrig beddi yn rhan bwysig iawn o’r ddyletswydd yma.  

Bydd y profion yn cael eu cynnal gan weithwyr sydd wedi eu hyfforddi, a bydd y y cerrig beddi sydd yn methu’r prawf yn cael eu gwneud yn ddiogel gyda chymorth polyn fel mesur dros dro. Bydd hysbysebion  yn cael eu rhoi arnynt hefyd er mwyn darparu gwybodaeth i unrhyw  aelodau teulu sydd yn ymweld gyda’r Fynwent gyda manylion o’r hyn sydd wedi ei wneud a phwy y dylid cysylltu gyda hwy am fwy o wybodaeth.    

Mae’r Cyngor yn cydnabod bod yna botensial bod rhai aelodau o’r teulu yn  anhapus ar ôl dysgu bod y gofeb yn anniogel, ond rydym yn gobeithio y byddant yn deall mai’r brif flaenoriaeth yw sicrhau bod pawb sydd yn ymweld â’r mynwentydd yn ddiogel. Os yn bosib, byddwn yn cysylltu ag aelodau teulu er mwyn rhoi gwybod iddynt fod rhaid iddynt ail-osod y gofeb. 

Dywedodd y Cyngh. Tudor Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Gofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch: “Hoffem ddiolch i’n gweithwyr am eu gwaith caled yn gwirio a yw’r cerrig beddi yma’n ddiogel, ond yn fwy pwysig, hoffem ddiolch i aelodau teulu am eu dealltwriaeth o’r ffaith bod rhaid i ni sicrhau bod pob dim yn ddiogel. Rwyf yn hyderus y bydd staff CSF yn ymgymryd â’r gwaith hwn gyda gofal a sensitifrwydd.”

Os nad yw’r garreg fedd yn cael ei hail-godi o fewn chwe mis ar ôl methu prawf diogelwch, bydd y Cyngor yn suddo traen o’r garreg fedd i mewn i’r ddaear tan fod y teulu yn trefnu fod y garreg fedd yn cael ei hail-osod gan Saer Maen Cerrig Beddi Cofrestredig. 

Os ydych yn bryderus ynglŷn â sefydlogrwydd y garreg fedd neu angen mwy o wybodaeth, dylid cysylltu gyda’r swyddog Mynwentydd ar  01873 735852 E-bost:cemeteries@monmouthshire.go.uk