Skip to Main Content

Bydd Coleg Gwent, mewn partneriaeth gyda Phartneriaeth Rhanbarthol Gwent, yn cynnal  cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu gyda darparwyr gofal cymdeithasol lleol ar draws pedwar campws Coleg Gwent yn ystod mis Medi a Hydref 2022.

Bydd Cyngor Sir Fynwy ar gampws Coleg Gwent yng Nghasnewydd ar y 26ain Medi, gyda digwyddiadau wyneb i wyneb, ‘Placement to Progression’, a fydd  nig yn unig yn rhoi’r cyfle i’r Cyngor i gefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau a thalent o fewn cymunedau lleol, ond hefyd y cyfle i ofalwyr  posib i ddod am brofiad  gwaith o fewn tîm Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cyngor.   

Y pwyslais yn y sesiynau yma yw annog myfyrwyr i ddod ar brofiad gwaith a manteisio ar gyfleoedd i weithio’n rhan amser, a dyma’r tro cyntaf y mae tîm Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cyngor wedi rhoi’r cyfle i fyfyrwyr iechyd a gwaith cymdeithasol i elwa o brofiad gwaith gyda gwasanaethau oedolion yn Sir Fynwy.

Dywedodd y Cyngh. Tudor Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd Hygyrch: “Mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig i ddyfodol gofal cymdeithasol ein cymunedau. Mae yna nifer o gyfleoedd ffantastig o fewn ein tîm   Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gyda’r cyfleoedd yma yn cynnig llwybr recriwtio amgen  ar gyfer gwasanaethau Sir Fynwy, gan ddarparu cyfleoedd lleol gwych i bobl ifanc yn Sir Fynwy  i gael swyddi.”

Dywedodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent: “Mae cymryd myfyriwr fel rhan o brofiad gwaith yn mynd i helpu Gwent i ddatblygu ‘dull system gyfan at weithlu iechyd a gofal cymdeithasol’ fel sydd wedi ei amlinellu yng nghynllun iechyd a gofal cymdeithasol  hirdymor Llywodraeth Cymru: Dyfodol Iachach i Gymru.”

Rydych yn medru siarad gyda thîm Iechyd a Gofal Cymdeithasol Sir Fynwy yng nghampws Casnewydd Coleg Gwent ar 26ain Medi rhwng 12pm a  2pm. Mae’r campws  wedi ei leoli ar Ffordd Nash, CasnewyddNP19 4TS.