Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cymryd rhan mewn ymgyrch genedlaethol y mis hwn er mwyn amlygu’r angen i weithredu ar frys o ran yr hinsawdd a natur. Yn cael ei chynnal rhwng 24ain Medi a’r 2ail Hydref, mae’r ymgyrch gweithredu hinsawdd, sy’n cael ei hadnabod fel yr Wythnos Fawr Werdd yn arwain at filoedd o bobl ar draws y DU yn trefnu gwyliau a digwyddiadau lleol.   

Mae’r ymgyrch yn ceisio tynnu sylw at newid hinsawdd, y byd naturiol sy’n cael ei ddifa tra hefyd yn gwneud cysylltiad gyda’r materion yma yn Sir Fynwy ac  yn amlygu’r hyn sydd yn digwydd er mwyn mynd i’r afael gyda newid hinsawdd. Yn creu byd gwell i ni nawr ac ar gyfer y genhedlaeth nesaf.     

Mae’r digwyddiadau sydd yn cael eu cynnal ar hyd  a lled y sir yn ystod yr wythnos yn amrywio o ddiwrnodau ‘darganfod natur’ cyhoeddus a chasglu i sbwriel i sesiynau sydd  yn cael eu cynnal mewn ysgolion er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r pwysigrwydd o fynd ati i ofalu am natur a’n mannau gwyrdd. Bydd yna ddigwyddiadau hefyd er mwyn annog pobl i deithio ar y bws neu gerdded neu seiclo i’r ysgol. Bydd cydweithwyr yn y Cyngor yn cael cyfle i roi cynnig ar e-feiciau a cherbydau trydan ac mae cymunedau yn cael eu hannog i arbed gwastraff, arbed arian ac arbed y blaned drwy ymweld gyda oergelloedd cymunedol lleol a benthyg pethau o ‘Benthyg/Library of Things’.

Cyngh. Catrin Maby gyda rhai o’r bysiau lleol
Cyngh. Catrin Maby gyda rhai o’r bysiau lleol

Mae’r Wythnos Fawr Werdd yn cael ei threfnu gan Glymblaid yr Hinsawdd, sef y grŵp mwyaf o bobl yn y DU  sydd wedi ymrwymo i gymryd camau yn erbyn newid hinsawdd, ac mae’r aelodau yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, WWF, Sefydliad y Menywod, Oxfam, Masnach Deg a’r RSPB.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae pob un ohonom angen chwarae ein rhan yn mynd i’r afael gyda newid hinsawdd, yma yn Sir Fynwy ac ar draws y byd. Mae cymryd rhan yn  o’r Wythnos Fawr Werdd drwy fynychu rhai o’r digwyddiadau sydd wedi eu trefnu  a dysgu mwy am y ffyrdd yr ydym yn medru lleihau ein hôl-troed carbon, y ffordd yr ydym yn teithio a’n gofalu am ein gerddi a’r mannau gwyrdd, lleihau faint o ynni yr ydym yn defnyddio ac unrhyw wastraff. Byddai’n wych pe bai pawb ohonom yn medru chwarae ein rhan yn ystod  yr Wythnos Fawr Werdd a thu hwnt er mwyn gwneud gwahaniaeth.”

Nodiadau i olygyddion: Digwyddiadau wedi eu rhestru isod.

DyddiadDigwyddiad  Manylion
Dydd Iau 22ain MediDiwrnod Dim Defnyddio CarGweithgareddau yn ysgolion Sir Fynwy er mwyn annog ysgolion, seiclo a sgwtio i’r ysgolion.    
Dydd Gwener, 23ain MediMis Dal y BwsBydd y Cyngh. Catrin Maby yn annog trigolion i ddefnyddio gwasanaethau bysiau lleol fel rhan o’r mis Dal y Bws.   
Dydd Sadwrn, 24ain Medi 10amCasglu Sbwriel Cymunedol Cadw Cas-gwent yn Daclus Cwrdd ym maes parcio Beachley Point ger gorsaf SARA er mwyn ymuno gyda thîm Glanhau Morol cadw Cymru’n Daclus.  Byddwn yn darparu’r offer ond dewch â menig gyda chi.
Dydd Llun 26ain Medi a dydd Gwener 30ain Medi 1pm  – 2pmBenthyg o Benthyg Trefynwy, Canolfan Bridges, TrefynwyA oes unrhyw beth sydd angen ei wneud dros y penwythnos ac a ydych angen teclyn arbennig? Ewch ihttps://monmouthshire.benthyg.cymru/gan weld a oes modd benthyg neu brynu rhywbeth o Lyfrgell Pethau Trefynwy!
Dydd Iau 29ain Medi 12pm – 5pmWythnos Gwyrdd UNISON Mae aelodau Unison yn cael eu gwahodd i  sesiynau er mwyn trafod sut i arbed ynni a dŵr…. ac arian ar filiau hefyd!   
Dydd Gwener 30ain MediGweithgareddau bywyd gwyllt Ysgol Gynradd Overmonnow  Bydd disgyblion o Ysgol Gynradd Overmonnow yn cael hwyl yn dysgu heddiw am ein bywyd gwyllt lleol a sut i ofalu amdano.   
Hyd at 30ain MediCael Dweud Eich Dweud ar Nid yw Natur yn Daclus   Dyma’r diwrnod olaf i gwblhau arolwg Nid yw Natur yn Daclus a sut ydym yn rheoli ein mannau gwyrdd  https://bit.ly/natureisntneat
Dydd Sul  2ail Hydref, 12 – 4pmDiwrnod Darganfod Natur Rogiet, Maes Chwarae Rogiet  Dewch draw i ddysgu mwy am Nid yw Natur yn Daclus, pryfed peillio a llawer iawn mwy!
Dydd Sul  2ail Hydref, 3pmFfilm yn Dangos  “2040” yng Nghanolfan  Gymunedol y Fenni Ymunwch gyda Chyfeillion y Ddaear yn y Fenni am eu ffilm yn dangos   ****STOP PRESS**** Mae’r holl docynnau wedi eu gwerthu ond bydd ffilmiau amgylcheddol eraill yn cael eu dangos cyn hir hefyd.   
Dyddiad i’w gadarnhauDiwrnod rhoi cyfle i staff y Cyngor i roi cynnig ar e-feiciau a Cherbyd TrydanMae staff yn Neuadd y Sir, Brynbuga, yn medru rhoi cynnig ar e-feiciau a Cherbydau Trydan, a phrynu pethau o Siop Ail-ddefnyddio.  
Dyddiad i’w gadarnhauGofodau Natur Cymunedol yng Nghas-gwent  Dewch i gael dweud eich dweud ar sut i elwa’n fwy ar fyd natur ym mharciau a meysydd chwarae Cas-gwent. Bydd staff y Cyngor yn dechrau’r ymgynghoriad drwy ofyn am farn plant ysgol yn gyntaf.   
Drwy gydol yr wythnosYmgyrch   Dim Segura ger YsgolionBydd arwyddion sydd wedi eu dylunio gan ddisgyblion er mwyn annog pobl i ddifodd eu hinjans tra’n aros ger ysgolion yn cael eu gosod ger ysgolion lleol.  
Amser gwahanol drwy gydol yr wythnosEwch i Oergelloedd Cymunedol Sir FynwyMae bwyd ar gael am ddim a chyfle i leihau gwastraff bwyd ac arbed arian yn llyfrgelloedd cymunedol Sir Fynwy. Am fwy o fanylion ac am y lleoliadau, ewch os gwelwch yn dda i  https://www.monmouthshire.gov.uk/lifes-essentials-food-cash-support/

● Clymblaid yr Hinsawdd yw’r grŵp mwyaf o bobl yn y DU sydd wedi ymrwymo i weithredu yn erbyn newid hinsawdd. Yn ogystal â’r mudiadau eraill sy’n gysylltiedig sef Stop Climate Chaos Cymru a Stop Climate Chaos Scotland, rydym yn grŵp o fwy na 140 o fudiadau — gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, WWF, Sefydliad y Menywod, Oxfam, a’r RSPB — a 22 miliwn o leisiau.

● Am fwy o wybodaeth am yr Wythnos Fawr Werdd, gan gynnwys manylion ynglŷn â sut i gymryd rhan, ewch os gwelwch yn dda i greatbiggreenweek.com