Skip to Main Content

Ym mis Medi, mae Sir Fynwy wedi dathlu Mis Dal y Bws, sef ymgyrch sydd yn cael ei chynnal gan Bus Users UK. Mae Mis Dal y Bws yn cael ei hyrwyddo ar draws y DU ac yn dod ar amser da gan fod Sir Fynwy hefyd yn dathlu lansiad bysiau trydan newydd, fel rhan o gynllun y Cyngor i symud at drafnidiaeth carbon isel.

Mae bysiau yn rhan bwysig o rwydwaith trafnidiaeth wledig Sir Fynwy, yn lleihau tagfeydd, yn gwella ansawdd yr aer a’n gwneud cymunedau yn fwy hygyrch. Yn ystod y mis diwethaf, mae Sir Fynwy wedi bod yn cynyddu amlder rhai gwasanaethau ar draws y sir ac wedi cyflwyno’r llwybrau  A1 a’r A4 yn y Fenni. Er mwyn dathlu’r llwybrau bysiau newydd yma,  mae Cyngor Sir Fynwy wedi cynnig cyfle i deithwyr i deithio am ddim am 10 diwrnod – y ffordd berffaith i ddechrau Mis Dal y Bws  ym mis Medi. 

Mae bysiau yn cael cydnabod fel ffyrdd o leihau ynysigrwydd cymdeithasol. Mae’r bws 65 sydd yn mynd o Gas-gwent i Drefynwy drwy fynd drwy Drelech hefyd yn enghraifft o wasanaeth gwledig sydd yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Fynwy a’i werthfawrogi gan ddefnyddwyr gwasanaeth.  Mae’r daith yn mynd ar hyd ffordd hyfryd sy’n cael ei mwynhau gan ymwelwyr a thrigolion. 

Mae’r Cyngh. Catrin Maby, Aelod Cabinet Sir Fynwy ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, wedi bod yn annog trigolion i ddefnyddio gwasanaethau bysiau Sir Fynwy:  “Roedd yn bleser o’r mwyaf cael teithio ar y bws 65 y mis hwn. Mae bysiau yn gwneud cyfraniad sylweddol i’n holl fywydau, yn gymdeithasol, yn economaidd a’n amgylcheddol. Maent hefyd yn llinyn bywyd ar gyfer cymunedau sydd yn darparu mynediad at addysg, gwaith, gofal iechyd, siopau  a hamdden.  Rydym am weld mwy o bobl yn defnyddio bysiau fel rhan o’r gwaith i amddiffyn y gwasanaethau yma ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Er mwyn dysgu mwy am y Mis Dal y Bws, ewch iwww.bususers.org/catchthebusmonth neu e-bostiwch catchthebus@bususers.org.

Mae modd i chi edrych ar amserlenni’r bysiau yn Sir Fynwy yma: Amserlenni ar gyfer Bysiau – Sir Fynwy