Skip to Main Content

Dydd Sadwrn 10th – Dydd Llun 12th Medi 2022

Disgwylir llanw uchel. Byddwn yn cadw golwg ar y sefyllfa ac, os oes angen, byddwn yn trefnu cau’r A466 drwy Dyndyrn am gyfnodau byr ar y dyddiadau ac amserau dilynol:

Dydd Sadwrn 10th Medi                      rhwng 20:45 – 21:15  (oddeutu)

Dydd Sul 11th Medi                             rhwng 21.30 – 22.00 (oddeutu)

Dydd Llun 12th Medi                           rhwng 09:50 – 10.20 (oddeutu)

Dydd Llun 12th Medi                            rhwng 22.10 – 22:40 (oddeutu)

Bydd y pwyntiau cau fel sy’n dilyn:

Cau Pen Gogleddol: Cyffordd Heol Tryleg

Cau Pen Deheuol: Cyffordd Royal George

Amcangyfrif yw amserau cau’r ffordd yn seiliedig ar yr amserau llanw a ragwelir. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro’r sefyllfa ac yn cyhoeddi Rhybuddion Llifogydd fel sydd angen. Dim ond dros dro y caiff ffyrdd eu cau a dim ond pan fo’r dŵr llanw yn llifo ar y briffordd. Bydd y ffordd yn ailagor cyn gynted ag mae’r dŵr wedi cilio o’r briffordd.