Skip to Main Content

Roedd y Cyngor wedi cymeradwyo, yn ystod cyfarfod heddiw ar ddydd Mawrth 27ain Medi 2022, cyfeiriad newydd ar gyfer ei Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) er mwyn sicrhau twf cynaliadwy yn y sir. 

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio i ddisodli’r Cynllun Datblygu Lleol presennol gyda chynllun newydd sydd yn amlinellu’r cyfleoedd i ddatblygu tan 2033. Bydd y Cynllun newydd yn clustnodi tir ar gyfer datblygu, ardaloedd penodol i’w diogelu ac yn cynnwys y polisïau a fydd yn cynnig sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniadau am geisiadau cynllunio.   

Dywedodd y Cyngh. Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet ar gyfer Economi Cynaliadwy: “Bydd ein cynigion yn gosod y sir ar y llwybr ar gyfer y twf sydd yn ddiwallu anghenion y boblogaeth, caniatáu twf economaidd a’n sicrhau bod pobl ifanc yn medru dewis byw yn y sir.

“Bydd y tai yr ydym yn adeiladu angen bod yn addas fel bod ein pobl yn medru talu. Bydd datblygiadau yn cael eu llywio gan yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol sydd yn dangos bod  33% o gartrefi ar safleoedd newydd angen bod yn tai cymdeithasol i’w rhentu a  17% angen bod yn is na phris y farchnad neu rhent y farchnad. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a datblygwyr tai er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni hyn.   

“Bydd y rhan fwyaf o dai newydd a safleoedd cyflogaeth  yn cael eu ffocysu ar rai o drefi mwyaf cynaliadwy’r sir. Bydd safleoedd newydd hefyd yn cynnig y cyfle i ganol trefi i gael eu hadfywio neu’u hail-ddatblygu ac yn helpu’r llefydd yma i ddod yn fwy llwyddiannus hyd yn oed.

“Erbyn diwedd eleni, byddwn yn nodi’r safleoedd strategol allweddol yng ngogledd a de’r sir. Fy uchelgais yw sicrhau bod y safleoedd yma yn gyffrous, yn gosod esiampl i ddatblygiadau eraill a’n dangos yr hyn y mae modd ei gyflawni unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.  Bydd cartrefi yn rhai carbon sero net o ran cael eu hadeiladu a phan fydd pobl yn byw ynddynt a bydd cymunedau yn cael eu cysylltu gyda threfi a phentrefi eraill gan ychwanegu at eu cynaliadwyedd. Bydd y CDLl yn cael ei gefnogi gan Gynllun Seilwaith a Chynllun Trafnidiaeth Lleol er mwyn sicrhau bod modd i ni adeiladu’r seilwaith hanfodol.   

“Mae yna broblem ar hyn o bryd o ran adeiladu tai newydd a chreu cyflogaeth yn nalgylchoedd yr afonydd hynny sydd wedi eu llygru. Rydym yn gweithio’n galed gyda rhanddeiliaid gan gynnwys  Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru Welsh Water i ddod o hyd i ddatrysiadau a’u gweithredu. Fodd bynnag, nid oes yna ddatrysiad strategol ar hyn o bryd ar gyfer dalgylch yr Afon Gwy ac mae hyn yn effeithio’n benodol ar dwf Trefynwy. Bydd hyn yn effeithio rhywfaint ar leoliad datblygiadau yno yn y dyfodol wrth i ni sicrhau nad yw datblygiadau yn cael unrhyw effaith adweithiol ar ansawdd yr afon. Mae ein huchelgais o ran twf hefyd yn sicrhau cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol cymunedau Sir Fynwy, heb effeithio ar y cynaliadwyedd amgylcheddol.   

Mae’r Cyngor wedi cymeradwyo cynllun ar gyfer y sir sydd yn gynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn gyffrous” ychwanegodd y Cynghorydd Griffiths.

Yn dilyn penderfyniad y Cyngor heddiw, bydd Strategaeth a Ffefrir newydd yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor ar 1af Rhagfyr er mwyn gofyn am ganiatâd i ddechrau’r ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o wyth wythnos rhwng Rhagfyr  2022 ac Ionawr 2023.