Skip to Main Content

Bydd un o’r sioeau amaethyddol pwysicaf yn ne Cymru yn cael ei chynnal yr wythnos hon. Mae Cyngor Sir Fynwy yn paratoi  i groesawu  pobl i Sioe Brynbuga sy’n cael ei chynnal ar 10fed Medi.

Ar Faes Sioe Brynbuga, bydd pabell y Cyngor yn cynnig cyfle i fwynhau ystod o weithgareddau am ddim a’n llawn hwyl gyda gwybodaeth yn cael ei chynnig gan amrywiaeth o wasanaethau a mudiadau.

Y thema eleni yw ‘Byddwch yn Wenwyn-wych’ a fydd yn ffocysu ar brosiectau cymunedol. Byddwn yn gofyn i ymwelwyr am yr hyn sydd yn mynd i elwa eu tref neu bentref. Mae’r tîm eisoes wedi ymweld â Chas-gwent, Cil-y-coed a’r Fenni er mwyn casglu awgrymiadau ond byddant hefyd yn Sioe Brynbuga. Felly, dewch draw i roi gwybod iddynt am yr hyn sydd yn medru gwneud gwahaniaeth go iawn yn eich cymuned chi.   

Yn y cyfamser, mae Costau Byw yn amlwg ar flaen meddyliau pobl, a bydd yna gyfle i gwrdd â’r tîm Cymunedau a Chyfiawnder Cymdeithasol a fydd yno i rannu gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael.

Bydd tîm Maethu Sir Fynwy yno hefyd er mwyn esbonio sut mae pobl yn medru cynnig cartref cariadus i rai o blant a phobl ifanc mwyaf bregus ein sir.

Bydd aelodau o’r adran hyfforddiant hefyd yn cynnig sesiynau cymorth cyntaf a CPR am ddim. Mae’r gwasanaeth Dechrau’n Deg, sydd yn cynnig cymorth i rieni, yn mynd i fynychu’r sioe a chynnig cyngor am fwydo babanod a darparu cyfleusterau i newid babanod o fewn y babell.   

Bydd yna gynrychiolwyr hefyd o Ailgylchu a Gwastraff,  My Mates, Ysgol Gynradd Brynbuga, Nid yw Natur yn Daclus a MonLife. Rydym yn annog cynifer o gydweithwyr, trigolion  ac ymwelwyr ag sydd yn bosib i ymweld a gofyn cwestiynau. Bydd tîm Cyflogaeth a Sgiliau Sir Fynwy yno hefyd yn siarad gyda phobl sydd yn chwilio am swyddi ac am ddatblygu eu sgiliau, derbyn hyfforddiant a chael mynediad at ystod o gyfleoedd ffantastig.

O flaen y babell, bydd yna lecyn Nid yw Natur yn Daclus a fydd yn cynnig gweithgareddau teuluol a thaflenni ffeithiau i chi ddysgu mwy am sut i adeiladu gwesty ar gyfer trychfilod fel bod modd cefnogi’r pryfed peillio a chreaduriaid bach yn eich gardd. Bydd yna beiriant torri gwair arbennig yno fel bod pobl yn medru dysgu mwy am y teclyn hwn a thynnu hunlun. 

Bydd yna siop Ailgylchu dros dro – a oedd yn boblogaidd iawn yn y sioe’r llynedd – yno hefyd i ymwelwyr fel eu bod yn medru bwrw golwg ar yr hen eitemau  sydd wedi eu hachub o’r tip tra’n hawlio bargen ar yr un pryd. Bydd yr holl elw yn mynd tuag at blannu coed yn Sir Fynwy.  

Bydd aelodau newydd y Cabinet yn mynychu’r sioe ac yn disgwyl ymlaen at gwrdd ag ymwelwyr, gan ateb eu cwestiynau a thrafod eu blaenoriaethau o fewn y sir.

Mae grwpiau lleol yn mynd i fod yno er mwyn creu ‘hwyl yn ystod yr ŵyl’ a bydd criw hel straeon Louby Lou yno er mwyn creu cynnwrf ymhlith y cenedlaethau iau drwy gynnig perfformiadau bywiog yn seileidig ar thema pryfed peillio. Yn y cyfamser, bydd tîm Theatr y Fwrdeistref yn y babell yn trafod cyfleoedd i wirfoddoli, tra bod  grŵp Cymraeg yno hefyd yn diddanu ymwelwyr y tu allan i’r babell. Bydd yna arlunydd yn paentio wynebau a chriw o arlunwyr gwahanol a gweithgareddau celf yno er mwyn helpu plant i  ddatblygu eu sgiliau creadigol. Bydd Seiclo Cymru gerllaw’r babell yn annog ymwelwyr i ddysgu mwy am y gamp.

Mae yna gryn gynnwrf ar gyfer cynnal y sioe amaethyddol wych hon unwaith  eto  ac mae’r tîm yng Nghyngor Sir Fynwy wedi bod yn gweithio’n ddiflino yn sicrhau y bydd y sioe yn un i’w chofio.  

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyngh. Mary Ann Brocklesby: “Mi fyddaf yno ar y diwrnod yn cwrdd â phobl o ardaloedd gwahanol y sir ac am glywed yr hyn sydd yn bwysig iddynt a sut ydym yn medru gweithio gyda’n gilydd er mwyn sicrhau bod Sir Fynwy yn sir lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Ar hyn o bryd, gyda chynifer yn  cael trafferthion yn ymdopi, rhaid i ni weithio mewn modd cynhwysol. Byddem yn annog ymwelwyr â Sioe Brynbuga i ymweld gyda phabell y Cyngor ac rydym yn disgwyl ymlaen at groesawu trigolion.”

Dywedodd Trefnydd Sioe Brynbuga, Nia Osborne: “Rydym yn falch iawn i’ch croesawu chi gyd nôl i’n cornel bach ni o Sir Fynwy er mwyn dangos bywyd gwledig ar ei orau. Fel arfer, mae amserlen lawn o ddigwyddiadau gennym ac mae rhywbeth felly ar gyfer pawb! Y prif atyniad yn y prif gylch yw arddangosfa y ‘Cavalry of Heroes Horseback’. Eleni, byddant yn rasio er mwyn penderfynu pa Dduw Llychlynnaidd sydd yn cyrraedd Valhalla gyntaf – dewch draw i gefnogi eich ffefryn yn y prif gylch am  12.30pm neu 4pm.  Yn eich cylch Cefn Gwlad, rydym yn croesawu nôl  ‘Tim Cŵn Ystwyth Rockwood’ a byddwn hefyd yn cynnig perfformiadau eraill sydd wedi bod yn boblogaidd fel y Bassett Hounds, Alpacas, yr Hebogiaid, Cŵn Adara a Hen Dractorau. Rydym yn cynnal tri maes parcio fel bod modd i bobl deithio mewn bysiau i’r maes a bydd yna fws gwennol hefyd o Sgwâr Twyn ym Mrynbuga er mwyn lliniaru unrhyw dagfeydd o fewn y dref, ac felly, defnyddiwch y rhain os yn bosib. Mae tocynnau ar gael ar ein gwefan nawr  – https://uskshow.ticketsrv.co.uk/tickets/ – os ydych yn prynu tocyn cyn dydd Sadwrn, byddwch yn arbed  £2.50 am bob un tocyn.”

Mae Sioe Brynbuga i’w chynnal ar Faes Sioe Brynbuga, Llandenni, NP15 1DD