Skip to Main Content

(Iau 18 o Awst) Mae’r set ffurfiol cyntaf o ganlyniadau arholiadau wedi eu cyhoeddi heddiw am y tro cyntaf ers 2019 ar gyfer myfyrwyr mewn pedair ysgol yn Sir Fynwy; Ysgol Cil-y-coed, Ysgol Cas-gwent, Ysgol Brenin Harrr’r VIII ac Ysgol Gyfun Trefynwy. Bydd myfyrwyr Lefel A yn cymryd eu cam nesaf ar daith bywyd.

Bydd y canlyniadau yma wedi eu sicrhau gan fyfyrwyr sydd wedi gweithio drwy gyfnod anodd ac wedi ei effeithio gan y pandemig  COVID-19. Maent yn ymgorffori  gwaith, dygnwch ac ymroddiad – sef rhinweddau yr hoffem weld ym mhob un person ifanc.

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, y Cyngh. Martyn Groucutt: “Mae ein holl fyfyrwyr sydd yn derbyn eu graddau lefel A a lefel AS yn haeddu’r ganmoliaeth uchaf am astudio drwy gyfnod hynod anodd. Eto, rydych wedi ymdopi gyda nifer o heriau ac wedi ymroi pob dim.

“Mae diwrnodau canlyniadau yn garreg filltir bwysig; byddwch nawr yn medru cymryd y cam nesaf mewn bywyd drwy fynd i addysg uwch neu i fyd gwaith ac rwyf yn dymuno pob lwc i chi. Wrth i chi gamu ymlaen, cofiwch am y rhai sydd wedi eich cefnogi; eich athrawon a’ch tîm ysgol ac wrth gwrs eich teuluoedd a gofalwyr.”

Dywedodd y Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, Will McLean: “Dyma’r set ffurfiol cyntaf o arholiadau ers 2019 ac yn ystod y cyfnod hwn, mae myfyrwyr wedi bod yn gweithio’n galed iawn mewn amgylchiadau heriol iawn. Rwy’n dymuno pob lwc i bawb wrth fynd i addysg uwch neu wrth iddynt ddechrau gweithio ac rwy’n credu eu bod yn medru gwneud hyn gyda hyder a gobaith. Rwy’n ddiolchgar, bob tro, i’n holl staff ysgol sydd wedi cefnogi ein dysgwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac wrth gwrs eu teuluoedd a gofalwyr.”