Skip to Main Content

Ers ei lansiad, mae Arolwg ar-lein Nid yw Natur yn Daclus wedi derbyn mwy na  1,000 o ymatebion ar draws Sir Fynwy ac ardal ehangach Gwent.

Mae’r arolwg, sydd yn cau ar  ddydd Gwener 30ainMedi,  wedi ei ddylunio er mwyn casglu barn trigolion ar waith Nid yw Natur yn Daclus, sydd yn hyrwyddo  caniatáu i laswelltir mewn parciau ac ochr y ffyrdd i dyfu yn y gwanwyn a’r haf er mwyn creu dolydd a gofod ar gyfer natur. Bydd yr adborth yn llywio’r ffordd yr ydym yn rheoli mannau gwyrdd yn y dyfodol.  

Ethos Nid yw Natur yn Daclus yw caniatáu’r glaswelltir ym mannau gwyrdd Gwent i dyfu a ffynnu gyda blodau gwyllt, gan roi bwyd a chynefinoedd i’n pryfed peillio. Mae’n ymwneud gyda tharo cydbwysedd rhwng natur a hamdden drwy gydol y flwyddyn. Bydd Cyngor Sir Fynwy yn parhau i asesu pa mor dda y mae’n rheoli’r mannau gwyrdd ar gyfer natur a thrigolion. Bydd yr arolwg yn parhau ar agor tan yr hydref, ac felly, mae digon o gyfle i ddarparu adborth drwy gwblhau’r arolwg  yma www.monlife.co.uk/outdoor/nature-isnt-neat/complete-our-survey/

Wrth fybd drwy’r haf, mae llawer o blanhigion wedi gorffen blodeuo ac yn dechrau hau hadau, gan adael i’r dolydd edrych fel petai eu bod yn cynnwys mwy o laswellt. Er efallai nad ydynt mor lliwgar, maent dal yn llawn  o geiliogod y rhedyn, gwyfynod a phila palod sydd yn byw ac yn bwydo yn y glaswellt. Mae’n hanfodol fod blodau gwyllt ar ddolydd yn medru creu a rhannu hadau cyn bod y glaswelltir yn cael ei dorri fel ein bod yn cael mwy o flodau blwyddyn nesaf. Ar ddiwedd y tymor, bydd tîm y Cyngor sydd yn gofalu am diroedd yn dechrau torri glaswelltir ar draws y safleoedd gwahanol,  a’n casglu’r deilliannau fel y dolydd traddodiadol a’n lleihau dominyddiaeth y glaswellt flwyddyn nesaf  a’n annog mwy o gynefinoedd bioamrywiol.   

Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan  yr European Agricultural Fund for Rural Development: Europe Investing in Rural Areas a’n cael ei ariannu gan grant o Lywodraeth Cymru, sef Grant  Caniatáu Adnoddau Naturiol a Llesiant. 

Am fwy o wybodaeth, ewch os gwelwch yn dda i: https://www.monlife.co.uk/outdoor/nature-isnt-neat/