Skip to Main Content

Mae’r cam cyntaf ar gyfer prosiect i drawsnewid hen reilffordd filwrol i mewn i lwybr Teithio Llesol wedi dechrau yn Sir Fynwy.

Yn sgil dyhead i annog mwy o deithio cynaliadwy i Gastell Cil-y-coed, y parc a’r tir o’i gwmpas a rhan ddwyreiniol Cil-y-coed, bydd Cysylltiadau Cil-y-coed yn arwain at ailwampio hen reilffordd filwrol yn dod yn rhan o rwydwaith Teithio Llesol Sir Fynwy. Mae Cyngor Sir Fynwy, drwy weithio mewn partneriaeth gyda Sustrans Cymru, gyda chefnogaeth gan Reilffordd Gwili, yn creu taith gerdded a seiclo a fydd yn cysylltu’r Prosiect Cornfields, sydd yn cael ei yrru’n lleol, gyda Pharc Castell Cil-y-coed a chymunedau ehangach Cil-y-coed, Porthsgiwed a’r ardaloedd cyfagos.

Bydd cam cyntaf y prosiect yn mynd o Brosiect Cornfields-  sef prosiect sydd yn cael ei arwain gan y gymuned er mwyn ail-hawlio tir prysg lleol a chreu gofod gwyrdd cyhoeddus sydd angen – ac yn arwain at Gastell Cil-y-coed. Y nod hirdymor yw sicrhau bod modd cerdded a seiclo rhwng Cil-y-coed a Chrug, gan gysylltu Porthsgiwed, a’n cynnig llwybr amgen i’r  llwybr presennol sydd yn brysur o ran cerbydau.

Yn dilyn cais llwyddiannus o gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, bydd y cynlluniau yma  yn rhoi hwb a’n cefnogi’r gwaith er mwyn sicrhau bod modd gofalu am goed lleol a bywyd gwyllt.

Dywedodd y Cyngh. Sara Burch, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau Cynhwysol a Byw:
“Mae’n wych bod yna lwybr Teithio Llesol yn cael ei ddatblygu yn Sir Fynwy. Bydd y llwybr yn elwa nifer  fawr o bobl ac yn darparu ffyrdd mwy diogel a gwell o gerdded neu seiclo o gwmpas Cil-y-coed. Mae’r prosiect hwn yn ffantastig er mwyn help lleihau ein hôl-troed carbon fel y llwybrau i Grug, Porthsgiwed a Chil-y-coed a fydd yn fwy hygyrch drwy feicio neu gerdded.”

Y cam cyntaf i baratoi’r safle yw bod Tîm Cynnal a Chadw Safleoedd y Cyngor yn clirio’r glaswellt a’r blodau fel bod modd tynnu’r rheilffordd oddi yno.

Y dasg nesaf oedd tynnu’r rheilffordd oddi yno a’i gludo at  i Gaerfyrddin fel bod modd i Reilffordd Gwili, sef rheilffordd treftadaeth Cymreig, ei hail-ddefnyddio, ac nid oedd hyn yn hawdd yn sgil yr angen i osgoi effeithio ar fioamrywiaeth yr ardal. Mae pob dim wedi ei symud oddi yno nawr o ran y rheilffordd.

Bydd ychydig o’r rheilffordd dal yno er mwyn cydnabod etifeddiaeth yr ardal ac yn rhan o’r dyluniad terfynol ynghyd â byrddau gwybodaeth sydd yn disgrifio hanes y safle.   

Dywedodd Gwyn Smith, Rheolwr Datblygu Rhwydwaith ar gyfer Sustrans Cymru:“Roedd symud y rheilffordd oddi yno yn ymdrech wych gan nifer o bartneriaid. Roedd perchnogion busnes lleol, Wildwood Ecology, tîm cynnal a chadw Cyngor Sir Fynwy, Rheilffordd Gwili a’r Contractwyr Rheilffordd Barretts, oll wedi dod ynghyd gan greu gofod er mwyn adeiladu’r llwybr newydd. Mae Sustrans Cymru yn falch iawn bod y rheilffordd i’w hail-ddefnyddio a bod llwybr Teithio Llesol yn cael ei chreu drwy gydlafurio.”

Y bwriad yw dechrau adeiladu’r llwybr newydd ym mis hydref eleni, gyda chynlluniau yn cael eu datblygu i barhau gyda’r llwybr hyd at Barc y Castell ac i ganol tref Cil-y-coed, gan sicrhau bod yna fynediad mwy hawdd at amwynderau lleol. Bydd disgwyl bod y cam cyntaf o’r prosiect yn cael ei gwblhau erbyn 2023, ac a bydd y prosiect yn symud i’r cam nesaf er mwyn ei ddatblygu.