Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnig cyfle i deithwyr i deithio am ddim am 10 diwrnod, gan ddechrau ar ddydd Mawrth 30ain Awst, er mwyn dathlu’r gwasanaeth bws newydd o gwmpas y Fenni. Bydd hyn yn cynnwys y gwasanaeth A1 a A4 trydan newydd.

Drwy gyflwyno’r gwasanaeth newydd hwn, mae’r Cyngor yn  gobeithio annog trigolion i ddefnyddio bysiau yn fwy rheolaidd yn y dyfodol, er mwyn lleihau ein hôl-troed carbon.  Mae cyflwyno’r cerbyd trydan newydd yma yn cefnogi agenda datgarboneiddio’r Cyngor, a dyma’r cerbyd trydanol cyntaf i gynnig gwasanaeth cyhoeddus, a’r nod yw cyflwyno mwy o gerbydau tebyg yn y blynyddoedd i ddod.  

Mae’r newidiadau i’r gwasanaeth wedi eu gwneud yn sgil newid mewn contractau sydd wedi medru galluogi Cyngor Sir Fynwy i gynnig y gwasanaeth hwn am ddim  tan 17:30 ar 9fed Medi 2022. Fodd bynnag, mae’r A1 a’r A4 yn ddau o chwe gwasanaeth sydd yn newid o fewn llwybrau bysiau’r Fenni.

O’r 30ain Awst, bydd y llwybrau newydd canlynol yn cael eu cynnal:

  • A1 gwasanaeth tref y Fenni: Maerdy ac Underhill
  • A3 y Fenni – Llan-ffwyst – Gofilon – Gilwern – Clydach – Brynmawr
  • A4 gwasanaeth tref y Fenni: Llan-ffwyst a Llanelen
  • A5 gwasanaeth tref y Fenni: Ystâd Knoll
  • A6 gwasanaeth tref y Fenni: Holywell Crescent
  • 68 y Fenni – Rhaglan – Trefynwy

Bydd y rhain yn disodli llwybrau 2, 46, 47 a 83, na fydd ar gael mwyach ond bydd llwybrau A2, 43/X43, 78 & X3 yn parhau’n ddigyfnewid.

Dywedodd y Cyngh. Catrin Maby, Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae gwasanaeth bysiau yn rhan hynod bwysig o’r rhwydwaith trafnidiaeth gwledig, ac mae’n wych i weld ein bod yn medru cynyddu amlder rhai o’r gwasanaethau.  Mae’n wych i weld gwasanaethau bysiau Sir Fynwy yn dechrau defnyddio bysiau trydan hefyd, sydd yn rhan o’n hymdrechion i symud i drafnidiaeth carbon isel ar gyfer y dyfodol.”

Os hoffech ddysgu mwy am y newidiadau yma, yna ewch i’r ddolen ganlynol os gwelwch yn dda: Amserlen y Bysiau – Sir Fynwy