Skip to Main Content

Cafodd mannau gwyrdd a pharciau Sir Fynwy sylw unwaith eto yng Ngwobrau Baner Werdd eleni. Mae’r gwobrau, a gyflwynir gan elusen amgylcheddol flaenllaw Cadwch Gymru’n Daclus, yn cydnabod y lleoliadau sy’n cynnig cyfleusterau rhagorol a dangos ymrwymiad parhaus i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd gwych.

Eleni, caiff Gardd Gymunedol Cil-y-coed, Gardd Synhwyraidd Garden City a Phentref Rogiet sy’n Gyfeillgar i Fywyd Gwyllt eu Gwobrau Cymunedol cyntaf, ac mae pedwar o leoliadau’r sir yn dathlu llwyddiant eto: Hen Orsaf Tyndyrn (a enillodd wobrau ers 2009), Parc Gwledig Castell Cil-y-coed (ers 2013), Dolydd y Castell y Fenni (ers 2014) a Chamlas Sir Fynwy a Brycheiniog (ers 2020).

Mae Hen Orsaf Tyndyrn yn atyniad poblogaidd ac mae mewn llecyn coediog hardd yn ymyl yr Afon Gwy, ac fe’i disgrifiwyd fel gem gudd. Mae castell canol oesol ysblennydd Cil-y-coed mewn 55 erw o barc gwledig hardd yn cynnig lleoliad delfrydol ar gyfer picnic a mynd am dro gyda muriau’r castell yn y cefndir, gyda byrddau picnic a barbeciws. Mae Dolydd y Castell heddychlon y Fenni ar lannau’r Afon Wysg yn llecyn tawel o fewn cyrraedd agos i ganol y dref.

Mae Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn rhedeg drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gydag adran rhwng Gilwern i Famhilad o fewn Sir Fynwy. Mae’r gamlas dawel a hardd yn boblogaidd gyda chychwyr newydd ac mae’n cynnig golygfeydd mynyddig anhygoel ac awyr nos sydd ymhlith y tywyllaf ym Mhrydain.

Cafodd deuddeg lleoliad arall yn y sir gydnabyddiaeth arbennig gyda Gwobr Gymunedol: Gardd Gymunedol Cil-y-coed, Gardd Synhwyraidd Garden City, Pentref Rogiet sy’n Gyfeillgar i Fywyd Gwyllt, Gardd Bwyd Bendigedig Brynbuga yn Neuadd y Sir Cyngor Sir Fynwy, yn ogystal â Pharc Mardy a Pharc Bailey, ill dau yn y Fenni, Coetir Crug a Dôl Crug, Rhandiroedd Crug, Gardd Gymunedol Goetre, Perllan Gymunedol Laurie Jones a’r Cae Ŷd ym Mhorthysgewin.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet dros Gymunedau Cynhwysol ac Egnïol:

“Mae mor hyfryd gweld gwaith caled ac ymroddiad cynifer o wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol sy’n gofalu am y mannau gwyrdd hardd hyn yn derbyn eu gwobrau gwych. Ar ran fy nghydweithwyr a finnau, hoffwn fynegi ein diolch iddynt am eu holl waith caled.”

Cyflwynir y rhaglen Gwobrau Baner Werdd yng Nghymru gan elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr annibynnol ar ofodau gwyrdd eu hamser ddechrau’r hydref i farnu safleoedd a ymgeisiodd ar wyth maen prawf cyfyng, yn cynnwys bioamrywiaeth, glanweithdra, rheoli amgylcheddol ac ymgyfraniad y gymuned.

Mae rhestr lawn o enillwyr gwobrau ar gael ar wefan Cadwch Cymru’n Daclus

www.cadwchgymrundaclus.cymru

I gael mwy o wybodaeth ar y llu o atyniadau a lleoedd i ymweld â nhw yn Sir Fynwy ewch i: Ymweld â Sir Fynwy https://www.visitmonmouthshire.com/

Gardd Bwyd Bendigedig Brynbuga yn Neuadd y Sir Cyngor Sir Fynwy