Skip to Main Content

Gan ei fod yn ap symudol sy’n cysylltu rhieni â system cludiant ysgol eu plentyn, mae’r ap ‘SchoolBusTracker’ yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn uniongyrchol i rieni ac yn eu hysbysu am gyraeddiadau ac oedi, drwy ddarparu lleoliad amser real ar gyfer cludiant i’r ysgol. Mae hyn yn caniatáu i ysgolion reoli unrhyw sefyllfa o ran cludiant yn effeithlon, yn ogystal â rhoi tawelwch meddwl i rieni o ran ble mae eu plentyn. Gan ddefnyddio technoleg olrhain GPS, mae’r ap yn galluogi rhieni a gweinyddwyr ysgolion i fonitro taith bws ysgol y plant ar gludiant o’r cartref i’r ysgol.

Bydd yr ap yn rhad ac am ddim i rieni ei lawrlwytho, ac ar ôl cofrestru bydd manylion mewngofnodi yn cael eu hanfon drwy e-bost a fydd yn galluogi myfyrwyr i sganio cod QR wrth fynd i mewn i gerbyd yr ysgol. Pan gaiff ei sganio, bydd hyn wedyn yn hysbysu rhieni o daith eu plentyn ac yn eu diweddaru.

Bydd ap y gyrrwr hefyd yn caniatáu i’r gyrrwr gyfleu unrhyw oedi neu sefyllfaoedd brys gan greu cysylltiad amser real rhwng y bws a’r gweithredwr cludiant a darpariaeth sianel gyfathrebu symudol ddiogel.

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt, yr Aelod Cabinet dros Addysg: “Bydd yr app gwych hwn yn helpu rhieni i gynllunio o flaen llaw a hefyd derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am daith bws ysgol eu plentyn. Rwy’n falch iawn o weld cyflwyno technoleg arloesol o’r fath yn Sir Fynwy.”

Y bwriad yw i’r app gael ei gyflwyno i bob ysgol yn Sir Fynwy ym mis Medi, gan fod o fudd i’r cyngor yn ogystal â rhieni. Bydd yr app ‘SchoolBusTracker®’ yn helpu Cyngor Sir Fynwy i gynllunio a gweithredu anghenion cludiant mwy effeithlon drwy ddefnyddio data adrodd a chludiant yr app.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan yr app: SchoolBusTracker® (schoolbustrackerapp.com)