Skip to Main Content

Yng nghanol safle heulog Ysbyty Llys Maindiff, roedd cynrychiolwyr o amryw o fudiadau lleol a chyn-filwyr wedi dod at ei gilydd er mwyn agor gardd therapi hygyrch newydd ar gyfer cyn-filwyr  ar ddydd Llun 18fed Gorffennaf.

Roedd y prosiect wedi dechrau ym Mehefin y llynedd  ar pan oedd GIG Cymru i Gyn-filwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gyda chefnogaeth gan Gyngor Sir Fynwy, wedi gwneud  cais llwyddiannus i’r Gronfa Ymddiriedaeth y Cyfamod am grant ‘Forces for Change’ er mwyn sefydlu’r man awyr agored pwysig hwn, sydd llai na dwy filltir o’r Fenni, ar dir safle Ysbyty Llys Maindiff.

Roedd Arweinydd y Prosiect, Damon Rees o Wasanaeth i Gyn-filwyr Aneurin Bevan wedi dwyn pobl ynghyd o bob rhan o’r gymuned ar gyfer yr agoriad, gan gynnwys y Gwasanaeth i Gyn-filwyr, Penaethiaid Adrannau o a Gyfarwyddiaeth  Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu oedolion Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Fforwm Lluoedd Arfog Sir Fynwy, elusennau i gyn-filwyr fel Change Step,  y Lleng Brydeinig Frenhinol, SSAFA (Soldiers, Sailors, Airmen and Families Association), Blesma (Elusen ar gyfer Cyn-filwyr sydd wedi colli darnau o’u corff) a Way of the Warrior. Maent oll wedi cofleidio syniad y prosiect yma ac wedi cytuno y byddai’n gwella lles. At hyn, bydd y clwb garddio yn safle Maindiff yn cynnig cyfle hefyd i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd.   

Roedd y sawl a ddaeth ynghyd i ddathlu’r agoriad yn cynnwys cynrychiolwyr Cyngor Sir Fyney gan gynnwys y Cynghorydd Peter Strong (Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog) a’r Cadeirydd Laura Wright, Arglwydd Raglaw Gwent y Brigadwr Robert Aitken CBE, staff Gwasanaeth i Gyn-filwyr Aneurin Bevan, Uwch Siryf Gwent a Swyddog Cyswllt Cyfamod Lluoedd Arfog Rhanbarthol ynghyd â chynrychiolwyr o’r Gwasanaeth i Gyn-filwyr  o’r holl Luoedd Arfog ac roedd y rhain yn cynnwys unigolion sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth ac eraill sydd dal yn defnyddio’r gwasanaeth. 

Dywedodd y Cyngh. Peter Strong, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Sir Fynwy: “Mae gerddi therapi yn cael eu cydnabod fel pethau sydd yn helpu’r sawl sydd yn dioddef trawma, ac yn cynnig lle tawel, hardd a lle da i dreulio amser cyn a/neu ar ôl  derbyn therapi seicolegol ar gyfer trafferthion iechyd meddwl sydd wedi eu hachosi gan eu hamser yn y lluoedd arfog. Rwyf mor falch fod y prosiect hwn wedi ei wireddu – bydd mor bwysig i gyn-filwyr a’u teuluoedd.”

Mae’r  ardd newydd yn cynnwys seddi  a deildy gyda Mainc Goffa yn nodwedd bwysig, gyda thri silwét dur o filwyr sydd yn dynodi pob un o’r Lluoedd Arfog ac mae blodau wedi eu plannu yno er mwyn coffau milwyr. Mae yna lwybr wedi ei osod sydd yn arwain at y man eistedd er mwyn rhoi mynediad i gadeiriau olwyn. 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Strong: “Mae’n newyddion gwych y bydd y sesiynau garddio yn cael eu cynnal yn yr ardd unwaith yr wythnos, a hynny diolch i’r bobl yn  Growing Spaces a Chymdeithas Garddwriaeth Caerffili, er mwyn helpu’r cyn-filwyr i ddatblygu’r gofod a rhoi’r cyfle iddynt ennill cymwysterau Lefel 2 a 3 mewn garddwriaeth os ydynt yn dymuno.”

Dywedodd Arweinydd y Prosiect a Mentor Cymheiriaid ar gyfer Gwasanaeth i Gyn-filwyr BIBA, Damon Rees: “Hoffem ddiolch i bawb a oedd wedi mynychu ein hagoriad newydd heddiw yn Ysbyty Llys Maindiff. Mae’r ardd eisoes yn cael ei defnyddio gan ein defnyddwyr sy’n gyn-filwyr ac mae’r adborth wedi bod yn hynod bositif. Dyma ofod ar gyfer cyn0filwyr, ac mae’n berchen iddynt hwy er mwyn ei ddefnyddio a’i ddatblygu eto. Mae heddiw yn dynodi gosod y sylfaen ar gyfer ein cyn-filwyr sydd yn meddu ar y dewrder i ddod ymlaen a gofyn am gymorth iechyd meddwl.