Skip to Main Content

Yn dilyn cyfarfod o Gynghorwyr Sir etholedig Glannau Hafren, mae newidiadau wedi eu cynnig i’r terfyn cyflymder ar rannau o’r B4245.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo deddfwriaeth ar 12fed Gorffennaf  2022 a fydd yn arwain at y terfyn cyflymder mewn ardaloedd  adeiledig ar hyd a lled Cymru o flwyddyn nesaf. Mae’r cynigion 20mya yn ffurfio rhan allweddol o bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Diogelwch  ar y Ffyrdd a Theithio Llesol drwy geisio creu diwylliant o gyflymder is, lleihau’r nifer o ddamweiniau ffordd ddifrifol, cefnogi dulliau teithio amgen fel cerdded a seiclo drwy wneud y ffyrdd yn llai brawychus i’r sawl na sydd yn defnyddio cerbydau tra hefyd yn elwa lles corfforol a meddyliol.   

Wrth baratoi ar gyfer y newid deddfwriaethol hyn. Roedd Llywodraeth Cymru wedi ariannu wyth parth peilot 20mya ar hyd a lled Cymru er mwyn roi cynnig ar y cam cyntaf o wneud y newid hwn, ac roedd un o’r parthau yma yng Nglannau Hafren. Cwblhawyd y broses o gyflwyno terfyn 20mya ar 18fed Mai 2022. 

Er bod yna gefnogaeth glir am 20mya mewn strydoedd preswyl, mae yna bryderon wedi eu mynegi am y terfyn cyflymder ar y B4245.  Roedd swyddogion a’r Cynghorwyr Sir wedi cyfarfod er mwyn adolygu terfyn cyflymder  y B4245 yn erbyn ‘maen prawf lle’ y Llywodraeth (sydd yn pennu pryd y mae ffyrdd A a B yn parhau’n 30 mya) yn erbyn y data sydd ar gael am ddamweiniau a chyflymder.   

Pa newidiadau sydd yn cael eu cynnig ar hyd y B4245?

  • Magwyr a Gwndy – yn parhau’n 20mya;
  • B4245 rhwng Gwndy a Rogiet – y cynnig yw bod y rhan gwledig 60mya yn dod yn 40mya;
  • Rogiet – i barhau’n 20mya;
  • Ffordd rhwng Rogiet a Chil-y-coed – i barhau’n 40mya;
  • Cil-y-coed – i barhau’n 20mya o Heol Longfellow i Ffordd Woodstock ac yna i 30mya o Ffordd Woodstock i gylchdro Mitel. O fewn y rhan hon o 30mya, bydd parth 20mya rhan amser yn weithredol pan fydd yr ysgol yn dechrau a’n gorffen;
  • Cylchdro Mitel i Barc Busnes Castlegate i’r fynedfa i Borthsgiwed – cynigir mynd yn ôl i’r terfyn cyflymer o 30mya tan y bont sydd yn mynd dros yr hen reilffordd.

Mae’r newidiadau arfaethedig yn ceisio mynd i’r afael gyda rhai o bryderon  y gymuned a nodwyd tra hefyd yn ceisio taro cydbwysedd gyda’r manteision o ddaw o leihau’r terfyn cyflymder. Mae lleihau cyflymder yn mynd i ostwng nifer a difrifoldeb unrhyw ddamweiniau a gwella ansawdd bywyd, lleihau ein heffaith amgylcheddol a’n cael effaith bositif ar les corfforol a meddyliol.   

Bydd y newidiadau arfaethedig yn rhan o ymgynghoriad statudol am 29 diwrnod sydd i’w gynnal yn ystod mis Awst, ac yn ddibynnol ar ymatebion, byddant yn cael eu cyfeirio wedyn at yr Aelod Cabinet i’w cymeradwyo yn yr Hydref.

Am fwy o wybodaeth, ewch os gwelwch yn dda i: Lleihau Terfynau Cyflymder – Sir Fynwy