Skip to Main Content
Llun: Gerald Beaumont, Catherine Spiller, y Cyngh. Maureen Powell a Derek Warren gyda’r Brigadwr Robert Aitken CBE, Arglwydd Raglaw Gwent

Roedd cyraeddiadau pedwar o drigolion mwyaf  ymroddedig ein cymunedau wedi eu dathlu mewn seremoni anrhydeddus yng Nghastell Cil-y-coed  ar ddydd Llun 25ain Gorffennaf, pan oedd pob un ohonynt wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig  gan y Brigadwr Robert Aitken CBE, sef Arglwydd Raglaw Gwent.

Mae’r fedal yn cael ei chyflwyno fel arfer am  orchest neu gyfraniad i’r gymuned mewn ardal ddaearyddol leol, gyda nifer sydd yn derbyn wedi ymroi’n ffyddlon i’w cymunedau dros y blynyddoedd. Mae’n ffordd o ddathlu’r bobl anhygoel sydd yn mynd y tu hwnt i’r galw er mwyn newid y byd sydd o’u cwmpas er gwell. Mae’r system yno i gydnabod y bobl sydd wedi gwirfoddoli eu hamser a’u hymdrechion, wedi ennyn parch eu cymheiriaid, wedi arddangos dewrder moesol neu gorfforol neu arloesedd a mentergarwch go iawn.

Cynhaliwyd y seremoni yn Sir Fynwy er mwyn dathlu cyraeddiadau pedwar trigolyn yn Sir Fynwy a’r ardal gyfagos: y Cyngh. Maureen Powell, Gerald Beaumont, Catherine Spiller a Derek Warren. 

Llun: Gerald Beaumont, Catherine Spiller, y Cyngh. Maureen Powell a Derek Warren

Roedd y Cyngh. Maureen Powell wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei gwasanaeth gwleidyddol. Mae Maureen wedi bod yn Gadeirydd ar Gyngor Sir Fynwy ddwyaith, yn Faer ar y Fenni ac yn llywodraethwr ar Ysgol Brenin Harri’r VIII am 13 mlynedd. Mae Maureen, sydd yn Aelod Ward ar gyfer Pen-Y-Fal yn y Fenni, yn adnabyddus yn lleol ac yn uchel ei pharch yn y gymuned.  

Roedd Gerald Beaumont o Frynbuga wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei waith codi arian sydd wedi  cyfrannu at wella bywydau cannoedd o bobl anabl ar draws Cymru ers 2007.

Roedd Catherine Spiller wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am gyfllwyno ymroddiad, uchelgais a chyfleoedd ymhlith y Cadetiaid a Byddin Wrth Gefn y Lluoedd Arfog a’r gymuned yn Nhrefynwy.

Roedd Derek Warren o Gil-y-coed wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei waith gwirfoddoli am fwy na 50 mlynedd o’i fywyd i’r ‘No.1 Welsh Wing’ o Gorfflu Hyfforddi y Llu Awyr, yn cefnogi oedolion ifanc yn Ne Cymru.

Roedd Arglwydd Raglaw Gwent, Brigadwr Robert Aitken CBE, wedi cynrychioli’r Frenhines yn y digwyddiad ddydd Llun. Dywedodd ef: “Rwyf yn llawn edmygedd am y pethau amrywiol y mae’r bobl anhygoel yma wedi ei gyflawni. Fel cynrychiolydd y Frenhines, rwyf yn llongyfarch yr unigolion yma am wneud ein cymdeithas yn lle gwell, a phetai’r Frenhines yma, byddai’n sicr yn dweud yr un peth.”

Os hoffech enwebu rhywun fel bod modd ei adnabod am ei gyfraniad o’r gymuned, cliciwch ar y ddolen hon os gwelwch yn dda: https://honours.cabinetoffice.gov.uk/