Skip to Main Content

Mae MonLife yn paratoi ar gyfer croesawu plant a phobl ifanc yn Sir Fynwy i’r cyfoeth o weithgareddau cyffrous a llawn hwyl sydd i’w cynnal ar hyd a lled y sir dros yr haf yma. Mae Gemau Sir Fynwy, canolfannau chwarae dan do, digwyddiadau theatr a llawer iawn mwy o weithgareddau, wedi eu trefnu gyda’r bwriad o gadw plant a phobl ifanc yn  brysur ac wedi eu diddanu yn ystod gwyliau’r haf.

Mae’r fenter Haf o Hwyl, gyda help buddsoddiad ariannol sylweddol o Lywodraeth Cymru, yn annog pobl  ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae cymdeithasol a diwylliannol  a gweithgareddau corfforol sydd y tu hwnt i ddysgu ffurfiol. 

Mae darpariaeth chwarae a chreu gofodau i chwarae yn rhan hanfodol o gefnogi lles plant a phobl ifanc. Mae’r rhaglen Haf o Hwyl, sydd wedi ei chefnogi gan gynnig chwarae ehangach MonLife, yn sicrhau bod ystod o weithgareddau ar gael i blant a phobl ifanc dros yr haf. At hyn, gyda gweithgareddau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar draws Cymru gyfan er mwyn cefnogi pobl ifanc a helpu teuluoedd gyda chostau byw cynyddol dros fisoedd yr haf, mae rhywbeth addas ar gyfer pawb.   

Mae’r gweithgareddau Haf o Hwyl yn dechrau gyda Gemau Sir Fynwy rhwng 25ain Gorffennaf a’r 26ain Awst, gyda gweithgareddau cyffrous yn cynnig mwy na 30 o weithgareddau chwaraeon  sydd i’w mwynhau ar gyfer plant a phobl ifanc – rhwng 5 a 11 mlwydd oed – ym mhob un o’r pedair canolfan hamdden ar draws y sir (Y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy). Mae Gemau Sir Fynwy yn cynnig cyfle unigryw i blant a rhieni. Mae’r sawl sydd yn cymryd rhan yn medru cwrdd  â ffrindiau newydd, datblygu sgiliau newydd a hyder tra bod rhieni yn hapus yn gwybod bod eu plant yn ddiogel  ac yn hapus a’n cael oriau o hwyl yn gwneud chwaraeon.  

Bydd sesiynau chwarae’r Haf hefyd yn cael eu cynnal ac yn cynnig gweithgareddau gwneud celf a chrefft sydd yn cael eu hysbrydoli gan gasgliadau, themâu a straeon o Amgueddfa Cas-gwent, Amgueddfa a Chastell y Fenni, Castell Cil-y-coed, yr Hen Orsaf Tyndyrn a’r Neuadd Sir, Trefynwy. Bydd y prosiect yn cael ei gynnal dros 2 wythnos gan ffocysu ar themâu Anhrefn y Canol Oesoedd a Chwarae Drwy’r Amseroedd. Mae mwy o wybodaeth yma: https://www.monlifeholidayactivities.co.uk/monlife-heritage/  

Mae digwyddiadau theatr awyr agored hefyd wedi eu trefnu yng Nghastell y Fenni dros yr haf gyda’r ddrama Much Ado About Nothing gan William Shakespeare yn fyw ar y llwyfan ar 29ain Gorffennaf. Mae yna ddigwyddiadau theatr eraill yn cael eu cynnal yng Nghastell y Fenni drwy gydol yr haf ar gyfer y teulu cyfan, gan gynnwys The War of the Worlds (12fed Awst) ac Awful Auntie gan David Walliams (19eg Awst). Er mwyn archebu tocynnau, defnyddiwch y ddolen hon: https://www.monlifeholidayactivities.co.uk/theatre-events/

Mae teuluoedd hefyd yn medru ymweld gyda chanolfan chwarae dan do MonLife yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy dros yr haf, sydd yn cynnwys drysfa ddringo gyffrous dros dair lefel a system unigryw o ‘faeddu’r cloc’. Mae holl byllau nofio canolfan hamdden Sir Fynwy ar agor i’w defnyddio dros yr haf, gan gynnwys sesiynau swigod teulu, gwersi nofio ar gyfer plant a dosbarthiadau ‘aqua’. Mae amserlenni nofio lleol ar gael yma: https://www.monlifeholidayactivities.co.uk/swimming/  

Mae Canolfannau Hamdden Sir Fynwy yn cynnwys rhaglen lawn o weithgareddau  ar gyfer y pyllau nofio gan gynnwys nofio am ddim, ac mae sesiynau sbin a’r gampfa ar gael i bobl ifanc rhwng 12 a 18 mlwydd oed hefyd ac mae modd iddynt ddefnyddio cyfleusterau 3G am ddim a sesiynau talu a chwarae am £1 ar adegau dynodedig.

Mae Tîm Gwaith Ieuenctid MonLife Connect yn cynnal rhaglen o  weithgareddau dros bum wythnos ar gyfer pobl ifanc sydd yn 11 mlwydd oed a’n hŷn gan gynnwys Skate Jam, cystadleuaeth pêl-droed, teithiau nofio a llawer iawn mwy. Mae mwy o wybodaeth yma: https://www.monlifeholidayactivities.co.uk/youth-service/

Dywedodd y Cyngh. Sara Burch, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau Cynhwysol a Byw: “Mae MonLife wedi gwneud gwaith gwych yn sicrhau bod rhywbeth ar gyfer pob plentyn yr haf yma. P’un ai eich bod yn hoffi chwaraeon, yn greadigol neu’n hoffi neidio o gwmpas y pwll nofio, mae yna rywbeth ar eich cyfer. Rydym yn gwybod bod teuluoedd yn cael amser caled yn ariannol, ac rydym wedi cadw’r costau i lawr yn sgil cyllid gan Lywodraeth Cymru. Ac os ydych yn chwilio am ddiwrnod i’r teulu sydd yn fforddiadwy, rydym oll yn medru mynd  tuag at y mynyddoedd a manteisio ar lwybrau cerdded Sir Fynwy, ymweld â’r cestyll neu fwynhau picnic yn y parc. Mwynhewch wyliau’r haf.”

Am restr lawn o’r holl weithgareddau sydd yn cael eu cynnal ar draws MonLife a’r Haf o Hwyl, ewch os gwelwch yn dda i www.monlifeholidayactivities.co.uk