Skip to Main Content

Dyma’r amser perffaith i ganolbwyntio ar eich taith iechyd a llesiant, diolch i ymgyrch Haf Hyfryd MonLife. Mae MonLife newydd lansio cynnig aelodaeth Egnïol newydd sy’n rhoi aelodaeth am chwe wythnos am £49. Mae’r pris yn cynnwys mynediad i holl gyfleusterau’r canolfannau hamdden yn ystod y cyfnod hwnnw ynghyd â sesiwn gynefino am ddim. Os ydych yn newydd i gadw’n heini, neu’n dychwelyd ar ôl egwyl hir, pa ffordd well sydd i ganfod os yw’n iawn i chi na’r ‘cyfnod blasu’ byr hwn yn ystod yr haf, fel y gallwch darganfod popeth sydd ar gael.

Mae aelodaeth MonLife yn cynnwys rhaglenni cymorth personol un-i-un a hyfforddiant campfa i’ch helpu i gyflawni eich nodau. Hefyd mae pedair canolfan hamdden y gallwch ymweld â nhw – y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy, bob un yn cynnig dewis eang o gyfleusterau yn cynnwys pyllau, campfeydd gydag offer Technogym, dros 160 dosbarth ffitrwydd yn cynnwys Les Mills, a mynediad i ystafelloedd sauna a stêm i’ch helpu i ymlacio (mae pob canolfan hamdden yn unigryw, felly ewch i’r wefan i weld yr amserlenni ar gyfer dosbarthiadau a nofio, a chyfleusterau eraill).

Mae aelodaeth hefyd yn cynnwys mynediad am ddim i MonLife Byw ac Ar Alw, drwy ap MyWellness, ar gyfer dyddiau pan na allwch gyrraedd y gampfa. Bydd sesiwn gynefino am ddim yn eich cyflwyno i’r offer a Thaith Aelodaeth Ffitrwydd personol llawn, yn cynnwys cyfansoddiad rhannau o’r corff gyda monitro Tanita, sy’n helpu i ddadansoddi eich iechyd a’ch ffitrwydd. Gall yr hyfforddwyr cyfeillgar lunio rhaglen bersonol ar eich cyfer chi i helpu cyflawni a nodau, a gallwch ei dilyn ar ap am ddim MyWellness.

Mae gennych tan 12 Awst 2022 i gofrestru ar gyfer chwech wythnos o aelodaeth am £49, felly ewch draw i’ch canolfan hamdden MonLife agosaf cyn gynted ag sydd modd. Mae parcio am ddim ar yr holl safleoedd, dim ffi ymuno a dim costau ychwanegol. Mae mwy na 160 o ddosbarthiadau ffitrwydd, yn cynnwys Les Mills, yn disgwyl i chi eu darganfod.

Dywedodd y Cyng. Sara Burch, Aelod Cabinet Cymunedau Cynhwysol ac Egnïol Cyngor Sir Fynwy: “Mae mor bwysig dod yn fwy egnïol ar gyfer ein hiechyd corfforol a meddwl. Rwy’n annog pawb i ymchwilio’r amrywiaeth gweithgareddau sydd ar gael yn eich canolfan hamdden leol, a chanfod rhywbeth y gallwch wirioneddol fwynhau cymryd rhan ynddo. Mae’n gam gwych tuag at fywyd mwy iach a mwy hapus.”

I gael mwy o wybodaeth ewch i: www.monlife.co.uk/cy/summer-campaign-2022/ neu ffonio 01633 644800 i siarad gydag un o’r tîm.