Skip to Main Content

Mae her gwerth £2.6 miliwn i annog arloesi wrth gynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol wedi’i lansio.

Nod y prosiect, sy’n bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy, Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru, a Chanolfan Ragoriaeth MYBB (Menter Ymchwil Busnesau Bach), yw nodi a chefnogi prosiectau a all harneisio potensial tir, technoleg a phobl i gynyddu cynhyrchiant a chyflenwad cynaliadwy o fwyd lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Gall sefydliadau arloesol sydd â diddordeb mewn gwneud cais am yr her gofrestru eu diddordeb yma: https://sdi.click/spsf  

Mae’r Her yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddangos yn glir:

  • Sut y byddant yn cynyddu cynhyrchiant bwyd cynaliadwy yn y rhanbarth ac yn creu effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol.
  • Sut y byddant yn cyflenwi bwyd maethlon, wedi’i dyfu’n lleol wrth sicrhau pris teg i gynhyrchwyr a lles cenedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid Hinsawdd: “Mae’r ffordd rydym yn cynhyrchu, cyflenwi a bwyta bwyd yn y dyfodol yn mynd i chwarae rhan fawr ym mha mor llwyddiannus ydym ni wrth ymateb i’r heriau digynsail a achosir gan newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, yn ogystal â salwch sy’n gysylltiedig â deiet.

“Mae’r heriau hynny, a’r heriau a ddaw yn sgil effaith barhaus y pandemig, Brexit, prisiau ynni cynyddol, a’r rhyfel yn Wcráin, hefyd yn cynnig cyfle i newid – i fanteisio ar ein hasedau lleol, i harneisio potensial tir, technoleg a phobl i ehangu’r broses o gynhyrchu a chyflenwi bwyd a dyfir yma, ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn gynaliadwy.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd:

“Mae’r prosiect hwn yn gyfle cyffrous iawn i fusnesau rhanbarthol arloesol gyflwyno prosiectau a fydd yn ceisio cynnal y broses o gynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol am genedlaethau i ddod.

“Wrth i’r argyfwng costau byw barhau i effeithio ar deuluoedd, mae diogelwch bwyd yn dod yn fwyfwy pwysig.   Felly, mae angen i ni fanteisio ar bob cyfle i hwyluso’r broses o bontio i system fwyd a all ddarparu bwyd fforddiadwy ac iach ar yr un pryd â lleihau effeithiau amgylcheddol negyddol”.

Bydd y gystadleuaeth, a ariennir gan Gronfa Her P-RC (Prifddinas-Ranbarth Caerdydd) a Llywodraeth Cymru, ac a gynhelir gan Gyngor Caerdydd, yn rhedeg mewn tri cham, gyda llwyddiant i’w werthuso erbyn 2025.

Her bwyd cynaliadwy gwerth £2.6 miliwn i ddod â gwelliannau o ran cynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol