Skip to Main Content
Cyngh Laura Wright, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, gyda Rohan

Roedd y fainc ‘Hapus i Sgwrsio’ gyntaf wedi ei dadorchuddio’n swyddogol ym mharc  y  Dell ger castell Cas-gwent heddiw, dydd Mawrth 12fed Gorffennaf. Mae’r meinciau yn cael eu cyflwyno gan Gyngor Sir Fynwy fel rhan o’r ymgyrch i roi diwedd ar unigrwydd, a hynny drwy ddangos i bobl eraill eich bod yn hapus i gysylltu ag eraill drwy gael sgwrs neu hyd oed wenu arnynt. 

Bydd pob mainc yn cynnwys plac ‘Hapus i Sgwrsio’ sydd wedi ei ddylunio gan ddisgybl o Ysgol Cas-gwent. Mae hyn yn dilyn cystadleuaeth a lansiwyd y  gan y Cyngor ym mis Chwefror 2020. Fis yn ddiweddarach, dewiswyd dyluniad  Rohan o gannoedd o ddyluniadau ffantastig a gyflwynwyd gan y disgyblion. Fodd bynnag, cyn gosod y plac, daeth y pandemig, a bu’n rhaid cadw pellter cymdeithasol. Nawr, mae modd lansio’r prosiect ‘Hapus i Sgwrsio’ yn swyddogol er mwyn dwyn pobl ynghyd eto.

Roedd Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyngh. Laura Wright wedi cyflwyno taleb rhodd i Rohan, 13, a chopi o’i ddyluniad mewn ffrâm fel rhan o’r seremoni. Roedd disgyblion Blwyddyn 6 o Ysgol Gynradd  Dell wedi gwylio’r seremoni a darllen barddoniaeth  sydd yn dathlu pa mor bwysig yw mainc gyffredin syml. 

Dyluniad llwyddiannus Rohan ar gyfer y meinciau Hapus i Sgwrsio

Dywedodd y Cyngh. Laura Wright,: “Mae’r meinciau yma nawr yn fwy pwysig nag erioed o’r blaen, gyda’r unigrwydd a brofwyd gan gynifer yn ystod y pandemig dal yn ffactor go iawn ym mywydau pobl. Rydym yn gwybod fod unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yn medru  cael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol pobl, ac yn medru cael eu profi gan bawb, ar unrhyw adeg o’n bywydau.

“Mae’n bwysig ein bod yn cymryd y camau sydd yn bosib er mwyn helpu pobl i ddod ynghyd a chysylltu ag eraill mewn ffyrdd mawr a bach. Mae’r hyn sydd yn sylfaen i gyswllt cymdeithasol yn aml yn dechrau gyda sgwrs syml.”

Dywedodd y Cyngh. Catherine Fookes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy ar gyfer  Cydraddoldeb ac Ymgysylltu “Mae’r meinciau yn syniad gwych. Bydd 12 mwy o feinciau yn cael eu gosod mewn lleoliadau gwahanol ar draws sir ond rydym yn gobeithio gosod hyd yn oed mwy. Yn y cyfnod o fis Medi i Dachwedd 2021, pan ddaeth cyfyngiadau’r cyfnod clo i ben, roedd  cynifer â 3.3 miliwn o bobl ar draws y DU dal yn dweud eu bod yn disgrifio eu hunain fel pobl ‘unig’. Mae hyn yn hynod bryderus ac yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni barhau i fynd i’r afael ag e’. Mae cael pobl i siarad, chwalu unrhyw rwystrau, yn gam cyntaf pwysig.”

Disgyblion o Ysgol Gynradd Y Dell
Cyngh Laura Wright, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, gyda Rohan, a Margaret Griffiths, Maer Cas-gwent 
Albie o ysgol y Dell yn darllen cerdd