Skip to Main Content

Ddydd Mawrth 14 Mehefin lansiodd Sir Fynwy ac Arup Group ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol trafnidiaeth yng Nghas-gwent, gyda’r nod o gael adborth adeiladol gan breswylwyr a busnesau.

Gyda ffocws ar Hyb Trafnidiaeth a Theithio Llesol, mae’r ymgynghoriad yn gofyn am farn preswylwyr ar ddarpariaeth dulliau trafnidiaeth cynaliadwy i fewn ac o amgylch ardal Cas-gwent. Mae hyn yn cynnwys dulliau tebyg i wella’r rhwydwaith bws presennol, cludiant ymateb i’r galw, seilwaith cerbydau trydan a chyfleusterau parcio a theithio.

Mae’r ymgynghoriad yn dilyn astudiaeth flaenorol yn 2020 pan ofynnodd Cyngor Sir Fynwy a phartneriaid strategol am adborth ar ystod eang o opsiynau yn anelu i fynd i’r afael â phryderon yn gysylltiedig â thrafnidiaeth a ddynodwyd yng Nghas-gwent a’r cylch. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn gwahodd sylwadau ar greu Hyb Trafnidiaeth integredig yn agos at yr orsaf reilffordd i gysylltu gwasanaethau bysiau, gwasanaethau tacsi a chyfleusterau teithio llesol ynghyd â gwefru cerbydau trydan.

I weld y cynigion a rhoi eich adborth, ewch i’r arddangosfa rithiol a’r digwyddiad ymgynghori ar-lein, yma: chepstowtransport.virtual-engage.com

Mae’r ymgynghoriad ar agor am bedair wythnos, gan gau am 11:59pm ddydd Mawrth 12 Gorffennaf 2022.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn: Adfywio a Thrafnidiaeth Cas-gwent – Sir Fynwy

Os hoffech gael copi caled, ffoniwch 0117 240 1529, neu anfon e-bost at chepstowtransportstudy@arup.com.