Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn ymuno ag un o’r pedwar rhanbarth cyntaf yn y Deyrnas Unedig i sefydlu partneriaeth flaengar ym maes caffael bwyd.

Dyfarnwyd cyllid i Sir Fynwy i ddatblygu Hyb Bwyd Rhanbarthol y Gororau. Swyddogaeth gyntaf Hyb Bwyd yw cysylltu cynhyrchwyr bwyd lleol gyda chyrff cyhoeddus – tebyg i awdurdodau lleol, ysgolion ac ysbytai, gan wneud cadwyni bwyd byrrach er budd yr amgylchedd, yr economi lleol, sicrwydd bwyd ac iechyd y cyhoedd.

Gan weithio gydag awdurdodau lleol yn ardal y Gororau, sy’n cynnwys Powys, Swydd Henffordd, Swydd Amwythig a Telford a Wrekin, bydd yr Hyb Bwyd yn dod â chynhyrchwyr a chyrff cyhoeddus ynghyd, gan ddatblygu ffordd ymlaen ar gyfer caffael bwyd lleol i’w fwyta’n lleol.

Dangoswyd fod cadwyni cyflenwi bwyd byr yn gostwng allyriadau carbon, yn hybu’r economi lleol ac yn cefnogi cynhyrchwyr a busnesau llai, gan ddod â chynnyrch tymhorol ffres i geginau lleol.

Mae ‘Hyb Bwyd Rhanbarthol y Gororau’ yn un o bedwar rhanbarth yn y Deyrnas Unedig i sicrhau cyllid dechreuol gan y Dixon Foundation, elusen Brydeinig sy’n darparu cyllid ar gyfer datrysiadau adnewyddu cadarnhaol. Cefnogir y cyllid gan Dynamic Purchasing UK Food (DPUK), y corff cenedlaethol sy’n cefnogi caffael bwyd deinamig. Nod DPUK yw sefydlu caffael bwyd deinamig ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig – mae hwn yn fodel y profwyd ei fod yn llwyddiannus gan ddefnyddio technoleg ddeallus i agor y farchnad a galluogi cynhyrchwyr bach a chanolig i gyflenwi sefydliadau cyhoeddus mawr. Wedi ei argymell yn y Strategaeth Fwyd Genedlaethol ac wedi cwblhau cynlluniau peilot llwyddiannus, mae DPUK yn credu y bydd y dull yn dod â newid sylweddol i’r rhanbarth. Daw DPUK yn Sefydliad Prynu Arweiniol gan rannu arfer gorau er mwyn cyflymu’r dulliau gweithredu a ddefnyddir gan sefydliadau prynu rhanbarthol annibynnol.

Dywedodd Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd ar Gyngor Sir Fynwy: “Mae’r prosiect hwn yn gyfle cyffrous iawn i Sir Fynwy i fod ar flaen y gad gyda datblygiad bwyd cynaliadwy ar draws y ffin, fel rhan o gynllun ar draws y Deyrnas Unedig i symud i gadwyni cyflenwi byr, gan gefnogi darparu bwyd lleol ar gyfer ein cyrff cyhoeddus lleol. Byddai hon yn sefyllfa pan fyddai ein heconomi gwledig a’n hamgylchedd i gyd ar eu hennill wrth i ni weithio gyda ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol i gynyddu cynhyrchu bwyd a gostwng milltiroedd bwyd.”

I gael mwy o wybodaeth ar y prosiect hwn cysylltwch â: food@monmouthshire.gov.uk