Skip to Main Content

Roedd Cyngor Sir Fynwy wedi ymgynghori gyda phobl Cas-gwent yng Ngwanwyn 2022 ynglŷn ag a ddylid ail-agor Stryd Fawr Cas-gwent i draffig. Roedd mwyafrif clir wedi mynegi y dylid ail-agor y Stryd Fawr i draffig. Ar 27ain Gorffennaf, bydd Cabinet y Cyngor yn pleidleisio ar yr argymhelliad sydd yn cefnogi barn y mwyafrif sydd wedi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae’r Stryd Fawr wedi ei chau ar gyfer traffig ers Mehefin 2020 pan oedd angen gwneud hyn er mwyn caniatáu i bobl i gadw pellter cymdeithasol a chefnogi masnachu yn yr awyr agored yn ystod pandemig Covid-19. Roedd yr ymgynghoriad dros y gwanwyn wedi caniatáu trigolion Cas-gwent  i fynegi barn ynglŷn ag a ddylid ail-agor y stryd i draffig neu a ddylid parhau i gadw’r stryd ar gau i draffig mewn ffyrdd gwahanol. Mae canlyniad yr ymgynghoriad wedi ei ystyried gan Gynghorwyr Sir a thref Cas-gwent ac maent oll yn cytuno y dylid parchu barn y trigolion. 

Dywedodd y Cynghorydd  Paul Griffiths, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy ar gyfer yr Economi a Bywoliaeth Gynaliadwy: “Yn Sir Fynwy, rydym yn gwrando ar farn dinasyddion. Mae pobl Cas-gwent wedi cael  profiad o gau’r Stryd Fawr yng Nghas-gwent i draffig ac wedi mynegi barn y dylid ei hail-agor, ac felly, dyma’r hyn y byddaf yn ei argymell i’r Cabinet.

“Byddaf nawr yn gweithio gyda phobl yng Nghas-gwent a’r busnesau ar y Stryd Fawr er mwyn creu canol tref sydd hyd yn oed yn fwy bywiog a deniadol. Rydym oll yn uchelgeisiol ar gyfer dyfodol Cas-gwent ac mae angen i ni barhau i lywio’r cynlluniau ar gyfer tref sydd yn taro cydbwysedd rhwng  cerddwyr, y sawl sydd yn defnyddio cerbydau, masnachwyr, ymwelwyr a thrigolion. Dyma ddechrau’r daith ac rwyf am weithio gyda busnesau, trigolion ac unrhyw Gynghorwyr eraill er mwyn datblygu syniadau creadigol i wneud y dref hyd yn oed yn fwy llwyddiannus.”

Am fwy o wybodaeth am Gyfarfodydd y Cabinet a Chyngor Llawn Sir Fynwy, ewch i democracy.monmouthshire.gov.uk/