Skip to Main Content

Y Cyng Mary Ann Brocklesby, Arweinydd y Cyngor, y tu allan i Neuadd y Sir, Brynbuga.

Ar Ddiwrnod Ffoaduriaid y Byd, dydd Llun 20 Mehefin, cyhoeddodd y Cyng. Mary Ann Brocklesbury, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, ddatganiad yn cadarnhau ymrwymiad y cyngor i gefnogi ffoaduriaid ac anrhydeddu dewrder y rhai sydd wedi ffoi rhag gwrthdaro ac erledigaeth.

Dywedodd y Cyng Mary Ann Brocklesbury: “Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl roeddwn yng gwersylloedd y Rohingya ar arfordir Bangladesh yn siarad gyda menywod am eu profiadau fel ffoaduriaid. Roedd yn anodd clywed straeon pobl mor ddewr yn gorfod ffoi o’u cartrefi gan golli llawer o’u perthnasau a’u hymdeimlad o le. Dyma brofiad ffoaduriaid o gynifer o wledydd. Mae Cymru yn falch i fod yn Genedl Nodded. Yma yn Sir Fynwy rydym yn ymroddedig i adeiladu cymunedau cryf, croesawgar a chydlynol. Rydym yn gwneud yn union hynny gyda ffoaduriaid o Wcráin yn eu hymdrechion i ganfod lle diogel newydd. Ac yn flaenorol rydym wedi helpu ffoaduriaid o Afghanistan, Syria ac Iraq i ganfod lle, canfod cartref, a chanfod ffordd o fyw gyda’r hyn na fydd byth yn mynd ymaith.

“Roeddwn yn siarad yr wythnos ddiwethaf gyda ffoaduriaid o Wcráin ac yn clywed am eu hymdeimlad o golled, galar ac ofn, ond diolch byth roeddent wedi cyrraedd man diogel yn Sir Fynwy. Ar Ddiwrnod Ffoaduriaid y Byd, rydym yn meddwl sut y gall pobl ganfod man lle cânt eu gwarchod, lle caiff eu hurddas ei gynnal, lle caiff eu hawl sylfaenol i deimlo’n ddiogel, ac i deimlo eu bod yn rhan o ddynoliaeth gyffredin, yn cael ei gynnal.

“Dyma’r hyn a wnawn yma yn Sir Fynwy. Rwyf mor falch ein bod wedi cynnig cartrefi newydd ac wedi agor ein calonnau i bobl sydd angen ein gwarchodaeth. Ar Ddiwrnod Ffoaduriaid y Byd, anrhydeddwn y bobl hynny y bu’n rhaid iddynt adael eu cartrefi gan ffoi gwrthdaro i ganfod man o ddiogelwch, gobaith a rhywle lle gallant deimlo eu bod yn cael eu helpu a’u cefnogi. Rwyf mor falch fod cynifer o breswylwyr yn Sir Fynwy wedi agor eu cartrefi i helpu’r teuluoedd hyn.

“Hoffwn ddiolch i gydweithwyr, gwirfoddolwyr a chynifer o bobl yn y gymuned a aeth yr ail filltir wrth groesawu pobl i’n cartrefi a’n calonnau, gan wneud iddynt deimlo’n ddiogel ac y gallai hwn fod yn gartref iddyn nhw hefyd. Ond pam ein bod ni’n gwneud hyn? Oherwydd mae gan bawb hawl i urddas. Mae gan bawb hawl i fod yn ddiogel. Ac mae gennym ddynoliaeth yn gyffredin, sy’n dweud pan fydd rhai nad ydynt yn ddiogel, byddwn yn ymestyn mas a’u helpu i fod yn ddiogel. Ac mae gennym i gyd rôl i’w chwarae wrth helpu pobl i ffynnu yn Sir Fynwy, o ble bynnag y maent yn dod neu beth bynnag yw eu stori.

“Rwyf mor falch o’r hyn a wnawn yn Sir Fynwy ac yn falch o amrywiaeth a chryfder y cymunedau rydym yn eu sefydlu gan weithio ochr wrth ochr. Mae hynny’n rhywbeth rwyf eisiau ei ddathlu, a hefyd ei goffau, ar Ddiwrnod Ffoaduriaid y Byd. Rwyf eisiau anrhydeddu ffoaduriaid a hefyd y teithiau ofnadwy y bu’n rhaid iddynt eu gwneud, a’r trawma y maent wedi ei wynebu, a  hefyd anrhydeddu pawb sy’n estyn mas i helpu’r rhai sydd angen cymorth, sydd angen hafan diogel.”

Dywedodd y Cyng Mary Ann Brocklesbury:
Dywedodd y Cyng Mary Ann Brocklesbury