Skip to Main Content

Yng nghyfarfod llawn y Cyngor ddydd Iau (23 Mehefin), cafodd Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Cyngor Sir Fynwy y trydydd golau gwyrdd – a’r un terfynol – ynghylch y cynnig am ysgol pob oed 3-19 y Fenni, y disgwylir iddi agor ei drysau yn 2024. Rhoddwyd cymeradwyaeth i gynnwys yr ysgol newydd yn Rhaglen Cyfalaf y Cyngor. Roedd hyn yn dilyn cais llwyddiannus am ganiatâd cynllunio a gytunwyd ar 8 Mehefin a chymeradwyaeth i’r Achos Busnes Llawn gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2022.

Caiff yr ysgol arfaethedig ei datblygu drwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy sy’n ymrwymiad Cymru’n Un ac yn gywaith unigryw rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau. Mae’n rhaglen buddsoddiad cyfalaf sylweddol, hirdymor a strategol gyda’r nod o greu cenhedlaeth o ysgolion cynaliadwy yng Nghymru.

Wedi’i hariannu yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, mae’r ysgol 3-19 arfaethedig yn ailddatblygiad o safle presennol Ysgol Uwchradd Brenin Harri VIII, yn cyfuno gydag Ysgol Gynradd Deri View i greu ysgol pob oed gyntaf Sir Fynwy.

Bydd yr ysgol pob oed yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer 1200 o ddisgyblion oedran uwchradd (11-16), 200 lle ôl-16, 420 lle ysgol gynradd, 30 disgybl meithrin cyfwerth ag amser llawn, yn cynnwys lleoedd o fewn yr ysgol ar gyfer dros 70 disgybl gydag anghenion niwroddatblygiadol a dysgu cymhleth. Bydd hefyd yn ysgol fro, gan ddarparu amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau tu hwnt i’r diwrnod ysgol i helpu diwallu anghenion ei disgyblion, eu teuluoedd a’r gymuned yn ehangach. Caiff safle’r ysgol ei rannu gyda Chanolfan Hamdden y Fenni a bydd yn parhau i ddarparu cyfleusterau ar gyfer defnydd y gymuned yn ystod y diwrnod ysgol a hefyd ar ôl oriau ysgol.

Dywedodd y Cyng. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae’n newyddion gwych fod y Cyngor Llawn wedi cymeradwyo’r cyllid ar gyfer yr ysgol pob oed. Bydd yr ysgol newydd yn dod â llawer o fanteision cymdeithasol i dref y Fenni. Mae’n fuddsoddiad pwysig i’r gymuned gyfan ac ar gyfer dyfodol y myfyrwyr fydd yn cael y budd mwyaf o’r datblygiad hwn.

“Rydym eisiau adeiladu cymunedau cynaliadwy a chryf sy’n cefnogi llesiant cenedlaethau heddiw a’r dyfodol. Mae’r ethos hwn yn ganolog i bopeth a wnawn i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Fynwy. Bydd naw ysgol yn bwydo i’r ysgol bob oed yma.”

Dywedodd y Cyng. Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg: “Rwyf wrth fy modd fod y prosiect hwn yn awr wedi cael tri golau gwyrdd ac yn barod i symud ymlaen i’r cam nesaf. Mae hefyd yn galonogol iawn i weld pa gyfleusterau gafodd eu hystyried ar gyfer disgyblion gydag anghenion niwroddatblygiadol a dysgu cymhleth.

Mae hwn yn amser cyffrous iawn i bobl ifanc y Fenni a hefyd y dref ei hunan. Bydd y gymuned o amgylch yn cael llawer iawn o fudd o’r ysgol pob oed ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y prosiect yn datblygu dros y ddwy flynedd nesaf.”

Yn unol ag ymrwymiadau Argyfwng Hinsawdd Sir Fynwy, yr adeilad fydd yr ysgol pob oes carbon sero net gyntaf i weithredu yng Nghymru, gan ddefnyddio ynni isel wrth gael ei hadeiladu a’i gweithredu, gyda ffocws ar ostwng pwysau yn sylweddol ar gyllidebau cynnal a chadw cynlluniedig ac ymatebol y dyfodol.

Mae’r Cyngor yn ymgymryd i ddarparu’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant a phobl ifanc, buddsoddi mewn dysgu a datblygu, gan sicrhau fod ganddynt yr amgylchedd, y sgiliau a’r gefnogaeth i ffynnu a bod yn barod ar gyfer gwaith y dyfodol.

Mae mwy o wybodaeth ar yr ysgol arfaethedig ar gael ar dudalen Cymunedau dysgu Cynaliadwy y cyngor: Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Sir Fynwy