Skip to Main Content
Natur wyllt

Gwahoddir preswylwyr y Fenni a phob rhan o Sir Fynwy i helpu creu celf gymunedol a ysbrydolwyd gan natur. Bydd tîm Natur Wyllt a’r artist gweledol Stephanie Roberts yn cynnal dau weithdy ar gyfer pobl leol, pan fyddir yn creu gwaddol barhaol ar gyfer ymgyrch Natur Wyllt.

Nid oes angen archebu i fynychu’r gweithdai hyn, a gynhelir yn y Clwb Rygbi yn Parc Bailey rhwng 9.30am a 1.30pm ar 30 Mehefin a hefyd 11 Awst. Gallwch alw heibio ar unrhyw amser yn ystod y bore ac aros cyhyd ag y dymunwch yn y sesiynau am ddim, sy’n addas ar gyfer pob oedran.

Bydd y gweithdy cyntaf yn cynnwys dylunio gwaith celf yn defnyddio cyfuniad o brosesau celf â llaw, collage, print a stensiliau, a bydd yn gwahodd sylwadau a syniadau fydd yn sail i’r gwaith celf. Bydd yr ail weithdy ym mis Awst yn canolbwyntio ar wneud y gwaith celf mosaig terfynol wrth ochr yr artist.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cymunedau Cynhwysol ac Egnïol Sir Fynwy: “Mae hwn yn gyfle gwych i’r gymuned helpu i greu darn o waith celf parhaus sy’n adlewyrchu harddwch natur Sir Fynwy ac ardal Gwent yn gyffredinol. Hoffem i bawb roi’r gair ar led am y gweithdai. Gorau po fwyaf o bobl fydd yn cymryd rhan gan ein bod eisiau i’r gwaith celf adlewyrchu’r gymuned leol. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at weld yr hyn a gaiff ei greu fel tystiolaeth barhaus o Natur Wyllt a’r effaith gadarnhaol a gafodd ei weithgareddau ar fywyd gwyllt a pheillwyr ar draws Gwent.”

Dywedodd y Cyng Catrin Maby, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Amgylched: “Ni ellir gorbwysleisio effaith Natur Wyllt ar draws Gwent. Mae’r dull dethol o dorri gwair sy’n galluogi glaswellt a blodau gwyllt i ffynnu am hirach yn cefnogi peillwyr ac ystod amrywiol o fywyd gwyllt yn gyffredinol. Mae’n hollol wych cael y gymuned yn dod ynghyd i helpu dathlu hyn. Rwy’n annog pawb i gymryd rhan yn y gweithdai hyn a hefyd ethos Natur Wyllt.”

Nid oes angen archebu ymlaen llaw ond byddai’r trefnwyr yn ddiolchgar os gall y rhai sy’n bwriadu mynychu adael iddynt wybod drwy anfon e-bost at gwentpollinators@monmouthshire.gov.uk fel bod ganddynt ryw syniad faint o bobl sy’n debyg o gymryd rhan. I ganfod mwy am Natur Wyllt ewch i www.monlife.co.uk/outdoor/nature-isnt-neat

Cefnogir y prosiect celf cymunedol hwn gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig a chaiff ei ariannu gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru.