Skip to Main Content

Lansiodd Cyngor Sir Fynwy ac Arup ymgynghoriad cyhoeddus ddydd Mawrth 14 Mehefin ar ddyfodol trafnidiaeth yng Nghas-gwent, gyda’r nod o gael adborth adeiladol gan breswylwyr a busnesau.

Gyda ffocws ar yr Hyb Trafnidiaeth a mesurau Teithio Llesol, mae’r ymgynghoriad yn gofyn am farn sylwadau ar ddarparu mwy o ddulliau trafnidiaeth gynaliadwy yng Nghas-gwent a’r cylch. Mae hyn yn cynnwys dulliau tebyg i welliannau i’r rhwydwaith bysiau lleol, trafnidiaeth sy’n ymateb i alw, seilwaith cerbydau trydan a chyfleusterau parcio a theithio.

Mae’r ymgynghoriad yn dilyn astudiaeth flaenorol a gynhaliwyd yn 2020, pan ofynnodd Cyngor Sir Fynwy a phartneriaid strategol am adborth ar ystod eang o opsiynau yn anelu i fynd i’r afael â phryderon a ddynodwyd yn gysylltiedig â thrafnidiaeth yng Nghas-gwent a’r cylch. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn gofyn am sylwadau ar greu Hyb Trafnidiaeth integredig ger yr orsaf reilffordd i gysylltu gwasanaethau bws, gwasanaethau tacsi, cyfleusterau teithio llesol ynghyd â mannau gwefru cerbydau trydan.

I weld y cynigion a rhoi eich adborth, ewch i’r arddangosfa rithiol a digwyddiad ymgynghori ar-lein, yma: chepstowtransport.virtual-engage.com

Mae’r ymgynghoriad ar agor am bedair wythnos, gan ddod i ben am 11:59pm ddydd Mawrth 12 Gorffennaf 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Adfywio a Thrafnidiaeth Cas-gwent – Sir Fynwy