Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi derbyn £3.4m o gyllid Teithio Llesol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 22/23 gyda’r nod o ostwng teithiau car bob dydd a gwneud cerdded, seiclo ac olwynio yr opsiwn rhwyddaf.

Mae ffocws strategol Teithio Llesol Sir Fynwy ar deithiau o lai na 3.0 milltir i addysg, cyflogaeth, siopa, cyrchfannau iechyd, gorsafoedd bws a thrên, a chaiff manylion y cynlluniau eu datblygu mewn partneriaeth gyda phobl leol.

Sut y caiff y cyllid ei ddosbarthu ar draws y sir?

Cil-y-coed

  • Adeiladu cam 1 Dolen Cil-y-coed (yn amodol ar ganiatâd cynllunio) – Newid hen reilffordd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ddolen cerdded a seiclo.
  • Datblygu safle (gwaith dylunio) llwybr aml-ddefnydd drwy Barc Gwledig Castell Cil-y-coed i gysylltu Dolen Cil-y-coed gyda Heol yr Eglwys.
  • Adeiladu cam 2 ar Heol yr Eglwys.
  • Datblygu cynllun Heol Casnewydd (Gorllewin)
  • Datblygu cynllun prosiect seiliedig ar Addysg a’r Ganolfan Hamdden

Y Fenni

  • Datblygu ymhellach y gwaith dylunio ar Ddolydd y Castell a’r bont Teithio Llesol dros yr afon Wysg.

Trefynwy

  • Datblygu ymhellach y gwaith dylunio ar Glwyd Kingswood i Lôn Cae Williams
  • Cysylltu Lôn Cae Williams gyda Phont Mynwy a Stryd Mynwy

Mae’r cyngor hefyd wedi derbyn £500k mewn cyllid craidd, sydd i’w ddefnyddio ar gyfer:

  • Datblygu prosiectau cynllun Pont Teithio Llesol yr Afon Gwy a dolen Wyesham
  • Enillion cyflym o amgylch y sir, gan ganolbwyntio ar fân welliannau i lwybrau Teithio Llesol, gan eu codi i safonau pasio archwilio
  • Dileu rhwystrau – gan wneud mynediad i lwybrau Teithio Llesol yn rhwyddach ac yn fwy hygyrch

Dywedodd y Cyng. Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae’n wych bod Cyngor Sir Fynwy wedi derbyn y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru. Wrth edrych ar yr hyn sydd ar y gweill ar gyfer y sir, rydym yn cymryd cam yn y cyfeiriad cywir i geisio cael pobl i gerdded, seiclo neu olwynio lle’n bosibl.”

Y cyfanswm cyllid o £3.9m yw’r swm Teithio Llesol mwyaf erioed i Gyngor Sir Fynwy ei dderbyn, gan ddangos yr ymrwymiad parhaus i wella llwybrau cerdded, seiclo ac olwynio o fewn y sir. Roedd dyfarniadau blaenorol yn cynnwys £3m yn 21/22 a £1.8m yn 20/21.

Mae mwy o wybodaeth am Deithio Llesol yn Sir Fynwy ar gael yn: Teithio Llesol – MonLife