Skip to Main Content

Codwyd baner y Lluoedd Arfog y tu allan i Neuadd y Sir ym Mrynbuga heddiw (dydd Llun 20fed Mehefin) am 10am gan Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Laura Wright, yn nodi dechrau Wythnos y Lluoedd Arfog. Bydd y faner yn chwifio yn Sir Fynwy drwy’r wythnos i anrhydeddu cyfraniad, ymrwymiad ac aberth ein personél milwrol, yn y gorffennol a’r presennol.

Cynhelir seremonïau i nodi’r cyfnod cyn Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn 25ain Mehefin. Mae’r diwrnod yn gyfle blynyddol i’r genedl ddangos cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog.  

Arweiniwyd y seremoni gan Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, yng nghwmni cynrychiolwyr y Lleng Prydeinig Brenhinol, yr Awyrlu Brenhinol, Gwasanaeth Tân De Cymru, Meiri Brynbuga, Cas-gwent a’r Fenni, cyd-gynghorwyr, cydweithwyr a Chaplan y Cyngor, Cynghorydd Malcolm Lane.

Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby:  “Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i holl bersonél ein lluoedd arfog a gweithwyr y gwasanaethau brys, a’u teuluoedd.  Bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog yn dathlu gwaith dynion a menywod y lluoedd wrth iddynt wasanaethu ledled y byd, gan ddiogelu rhyddid.

“Rydym yn cofio’r rhai sydd wedi colli eu bywydau dros ein rhyddid ar yr 11eg Tachwedd bob blwyddyn. Ond eleni wrth gwrs mae gan bob un ohonom ffocws gwahanol, yn dod i mewn i’n cartrefi ar y teledu, y radio a dros y rhyngrwyd. Nid yw erchyllterau rhyfel erioed wedi cael eu gwneud yn fwy clir gan yr hyn sy’n digwydd yma yn Ewrop, gyda’r rhyfel yn Wcráin.

“Bob dydd rydym yn gweld tystiolaeth newydd o’r erchyllterau a’r dinistr, dinasoedd yn cael eu chwalu, a dewrder anhygoel pobl Wcráin.

“Yma yn Sir Fynwy ymhlith cyfleusterau eraill, mae Caerwent yn parhau i fod yn faes hyfforddi pwysig i bersonél y lluoedd arfog, gan helpu i roi sgiliau i’n milwyr ein hunain i wynebu terfysgaeth. 

“Rwyf hefyd am dalu teyrnged i bawb yn y sir sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y gwasanaethau cymorth niferus sy’n cael eu cynnig i’r rhai sydd wedi gwasanaethu ein cenedl. Mae mwy na deg ar hugain o sefydliadau yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lyfnhau’r ffordd i’r rhai sydd, neu sydd wedi bod yn gwasanaethu, yn y lluoedd arfog.”

Daw Wythnos y Lluoedd Arfog ar ôl i Ganolfan Gymorth Cyn-filwyr Sir Fynwy gael ei chyflwyno ym mis Mawrth 2022, gyda’r nod o ddarparu cymorth o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gyn-filwyr o’r gymuned filwrol a chyn-filwrol.  Nod y Ganolfan yw grymuso cyn-filwyr, a’r rhai sy’n pontio o fywyd milwrol i fywyd sifil, gan integreiddio i’r cymunedau lleol.

Cynhelir y sesiynau yng nghanol y Fenni sy’n hawdd eu cyrraedd ar lwybrau ceir, trenau a bysiau.  Os ydych yn gyn-filwr o’r lluoedd arfog, gall Hyb Cymorth i Gyn-filwyr Sir Fynwy yn y Fenni roi cyngor, arweiniad a chymorth i chi ar bynciau fel tai, budd-daliadau, dyledion ac iechyd a lles.

Yn yr un modd, os ydych yn bryderus am y dyfodol, neu’n ei chael hi’n anodd addasu, gall siarad â chyn-filwyr eraill eich helpu drwy eich taith.  Bob dydd Llun o 10am – hanner dydd, gallwch ymuno â Chyn-filwyr eraill yn Sir Fynwy yn Hyb y Fenni, Neuadd y Dref, NP7 5HD.

I weld pa wasanaethau a chefnogaeth y mae’r cyngor yn eu darparu ar gyfer personél y Lluoedd Arfog, cliciwch y ddolen hon:  Y Lluoedd Arfog – Sir Fynwy