Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi aelodaeth am ddim am 6 mis ar gyfer canolfannau hamdden y sir, a hynny i’r holl ffoaduriaid yn Sir Fynwy er mwyn ceisio helpu eu lles. Daw’r newyddion ar Ddiwrnod Ffoaduriaid y Byd (20fed Mehefin) ond mae modd manteisio ar hyn ar unrhyw adeg o fewn blwyddyn o gyrraedd y DU. 

Mae’r cynllun ar gael i’r sawl sydd wedi gorfod gadael Wcráin yn sgil y rhyfel ynghyd â’r ffoaduriaid eraill sydd wedi derbyn statws ffoadur neu loches gan Lywodraeth y DU. Mae aelodaeth MonLife Active yn cynnwys mynediad at gyfleusterau hamdden yn y Fenni, Cas-gwent, Trefynwy a Chil-y-coed ynghyd â chynllun ffitrwydd personol am ddim a sesiwn wythnosol 30 munud, sef  Body Blitz.  Mae ffoaduriaid hefyd yn medru mwynhau gwersi nofio am ddim (yn ddibynnol ar argaeledd). Mae mwy o fanylion am aelodaeth MonLife ar gael yma www.monlife.co.uk/monactive/memberships/

Dywedodd aelod cabinet Cydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy, y Cyngh. Catherine Fookes: “Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer o bobl wedi cael eu gorfodi i ddianc o’r gwrthdaro, y trais, tramgwyddo hawliau dynol ac erledigaeth sydd wedi bod cynyddu’n echrydus. Rydym oll yn ymwybodol o’r sefyllfa yn Wcráin ond nid ydym yn ddall i’r sefyllfa anodd sydd yn wynebu eraill sydd yn gorfod dianc o’u cartrefi a’n chwilio am noddfa ar draws y byd. Mae gweithgarwch corfforol yn medru chwarae rôl sylweddol yn cynnal lles, ac ar Ddiwrnod Ffoaduriaid y Byd, rydym wrth ein bodd yn cynnig aelodaeth o’r ganolfan hamdden i bob un ffoadur yn Sir Fynwy.”